Mae dyn wnaeth ymosod yn ffyrnig ar ddwy blismones wedi osogi carchar, gan dderbyn dedfryd o 26 wythnos wedi’i gohirio am ddwy flynedd.

Fe gafodd Matthew James, 36 oed, y ddedfryd mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Hwlffordd ar ddechrau’r mis. Yn rhan o’i gosb fe fydd yn rhaid iddo wneud 300 awr o waith di-dâl a thalu iawndal i’w ddioddefwyr.

Roedd swyddogion yr heddlu wedi bod yn ei helpu ar ôl iddo geisio cerdded adref yn feddw yn oriau mân y bore ar 3 Mai.

Fe welodd criw ambiwlans y dyn o Benfro yn baglu ar hyd y B4318 rhwng Gumfreston a Dinbych-y-pysgod, felly galwon nhw’r heddlu.

Fe aeth dau gwnstabl i’r lleoliad a chludo’r dyn i’w gartref am eu bod nhw’n poeni am ei ddiogelwch.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu ei gartref, fe ddechreuodd y dyn ymddwyn yn ddifrïol ac ymosodol, ac fe darodd y ddau swyddog, Cwnstabl Morgans a Chwnstabl Knight.

Roedden nhw wedi dioddef anafiadau difrifol, gyda Morgans yn derbyn llygad ddu a chwydd i’w phen, tra bod Knight wedi cael chwydd i’w hwyneb hefyd.

“Dal i ailchwarae’r digwyddiad yn fy meddwl”

Fe ddywedodd y Cwnstabl Knight y bydd hi’n cymryd amser i ddygymod â’r effaith seicolegol.

“Rwyf yng nghyfnod cynnar fy ngyrfa, ac ni fu’n rhaid imi boeni am fy niogelwch erioed, ac yn sicr, ni feddyliais y byddai’n rhaid imi feddwl ddwywaith amdano â minnau’n gwisgo fy lifrai,” meddai.

“Pan fydd hyn drosodd, bydd [Matthew James] yn symud ymlaen yn hawdd, ond yn anffodus, i mi, bydd yn cymryd amser.

“Rwyf dal yn fenyw o gig a gwaed o dan y lifrai hyn. Mae gennyf deimladau, emosiynau a theulu i fynd adref ato.”

Roedd Cwnstabl Morgans yn ategu at hynny, gan gwestiynu pam wnaeth Matthew James ymosod arnyn nhw.

“Does dim llawer wedi newid. Mae’r anaf dal ar fy wyneb, ac rwyf yn dal i ailchwarae’r digwyddiad yn fy meddwl,” meddai.

“Nid yn unig effeithiau’r noson yw’r broblem, ond yr effaith emosiynol a chorfforol dros yr holl ddyddiau, wythnosau a misoedd hyn.

“Yna, mae pawb yn gofyn imi beth ddigwyddodd a pham. Rwy’n dal i fethu ateb y cwestiwn hwnnw.”

‘Gweithiwch Gyda Ni’

Mae’r gwasanaethau brys yng Nghymru wedi lansio ymgyrch ‘Gweithiwch Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn,’ yn dilyn cynnydd yn nifer yr ymosodiadau o’r fath.

Roedd cyfanswm o 4,240 o ymosodiadau wedi cael eu cyflawni yn erbyn gweithwyr brys, gan gynnwys swyddogion heddlu, swyddogion tân a chriwiau ambiwlans, rhwng Ebrill 2019 a Thachwedd 2020.

“Mae ymosodiadau ar swyddogion heddlu’n parhau i gynyddu, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol,” meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, Emma Ackland.

“Ni ddylai’r un swyddog ddisgwyl dioddef unrhyw fath o ymosodiad pan mae’n gwneud ei orau i wasanaethu’r cyhoedd, ac o bosibl achub bywydau.

“Mae’n hollbwysig fod dedfrydau a roddir yn adlewyrchu’r niwed a’r gofid a achosir i’r dioddefwyr hyn – gweithwyr proffesiynol sy’n gwneud eu gwaith.”