Mae’r rhan fwyaf o gyfyngiadau covid bellach wedi eu llacio yng Nghymru, ac yn y bôn ymddengys fod y ‘normal newydd’ yn fyd o barhau i weithio o adref ar y cyfan ynghyd â gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau.

Ond yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd Pàs Covid yn cael ei gyflwyno i’r sawl sydd am fynd i glwb nos neu ddigwyddiad.