Mae’r rapar ifanc enillodd Brwydr y Bandiau eleni yn fwy na cherddor.

Yn ogystal â chreu ei ganeuon hip-hop tywyll ei hun, mae Hedydd Ioan yn dipyn o dderyn sydd wedi cyfarwyddo fideos gan fandiau amlwg megis Candelas ag Alffa.

Felly does dim syndod bod ei broject cerddorol unigol cyntaf yn cynnwys elfen weledol gref.

Pan yn perfformio fel ‘skylrk’ (‘skylark’, sef ‘hedydd’ yn Saesneg) mae gan Hedydd ddelwedd drawiadol – sbectol dywyll, tjaen aur blingi am ei wddf, a chôt laes.