Y cyflwynydd/cynhyrchydd 51 oed yw Golygydd newydd Radio Cymru. Mae yn byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Rhiannydd, a’u plant Megan (18) a Joseff (14)…

Sut ydach chi am roi eich stamp ar Radio Cymru?

Fydda i’n pwyllo. Fydd yna ddim newidiadau mawr ar y dechrau, o gwbl. Dipyn o wrando, dipyn o siarad. Dw i yn un sy’n credu mewn esblygu, yn hytrach na chwyldro, pan mae hi’n dod i radio.