Mae amseroedd aros mewn adrannau brys a rhestrau aros am driniaethau yng Nghymru yn hirach nag erioed.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Awst yn dangos bod 68.7% o’r cleifion a fu yn adrannau brys y Gwasanaeth Iechyd wedi treulio llai na phedair awr yno – y targed yw 95%.

Yn ôl yr ystadegau, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd â’r amseroedd aros gwaethaf mewn adrannau brys, gyda 64.9% yn cael eu gweld o fewn pedair awr.

Ledled Cymru, fe wnaeth 7,982 o gleifion aros dros ddeuddeg awr am driniaeth ym mis Awst, sy’n gynnydd o 900 ers mis Gorffennaf.

Roedd traean o’r cleifion hynny (2,752) ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ar gyfartaledd, treuliodd cleifion dros 85 oed chwe awr a 33 munud mewn adrannau brys, sy’n gynnydd o 22 munud ers mis Gorffennaf.

Mae ystadegau ychwanegol ar gyfer Gorffennaf yn dangos bod y nifer uchaf erioed o gleifion yn aros am driniaethau (643,108 person). Mae un ymhob pedwar claf yn aros dros flwyddyn am driniaeth.

Ym mis Gorffennaf 2021, roedd bron i 240,000 o bobol wedi bod yn aros dros 36 wythnos am driniaeth, o gymharu â dim ond 25,634 ym mis Chwefror 2020.

Cafodd targedau amseroedd triniaeth am ganser eu methu hefyd, gyda 61.8% yn derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod, sy’n ostyngiad o 67.3% ers mis Mehefin.

‘Nid y normal newydd’

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae pob record anghywir yn parhau i gael ei thorri.

“Rydyn ni’n gweld triniaeth frys a thriniaeth wedi’u trefnu yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cyrraedd y pen nawr,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae hyn yn arwain at amseroedd aros annerbyniol i gleifion a llosgi allan annioddefol i staff sy’n gweithio’n galed.

“Fodd bynnag, nid dyma’r normal newydd.

“Nid yn hir cyn y pandemig, roedd y Gwasanaeth Iechyd, sy’n cael ei redeg gan Lafur, yn torri pob record anghywir yn gyson.

“Ymysg y materion sy’n gysylltiedig â Covid sy’n effeithio gwasanaethau cyhoeddus, mae yna broblemau dwfn sydd heb gael eu trin ers oes datganoli.”

Mae cais gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru am gymorth milwrol eisoes wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a’i anfon at y Weinyddiaeth Amddiffyn i’w gymeradwyo.

Er hynny, maen nhw wedi gwrthod galwadau’r Ceidwadwyr am ddatgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru o ganlyniad i’r galw cynyddol ac amseroedd aros cynyddol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i’r ystadegau diweddaraf, dywed Llywodraeth Cymru fod staff y Gwasanaeth Iechyd yn parhau i ddarparu lefelau uchel o ofal wrth drin cleifion.

“Mae lefelau gweithgarwch mewn gwasanaethau canser yn parhau i fod yn uchel gyda’r nifer uchaf ond un o gleifion yn cael gwybod nad oedd ganddynt ganser a’r trydydd nifer uchaf o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf,” meddai llefarydd.

“Mae amseroedd aros yn parhau’n uwch na’r lefelau cyn y pandemig ac mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn parhau i fod yn is na’r lefelau targed.

“Fodd bynnag, er bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos yn parhau i fod yn uwch nag erioed, roedd canran uwch o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ac roedd yr amser aros cyfartalog (canolrifol) ar gyfer triniaeth wedi gostwng ychydig o’i gymharu â’r mis blaenorol.

“Rydym wedi sicrhau bod £25m o gyllid ar gael i wella’r modd y darperir gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn pedwar sganiwr PET-CT newydd hefyd, “er mwyn gwella mynediad i’r dechnoleg ddiagnostig arloesol hon”, a fydd yn lleihau amseroedd aros, medden nhw.

“Rydym hefyd wedi rhoi £240m yn ychwanegol i’r GIG yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i adfer o bandemig Covid a lleihau amseroedd aros,” meddai Llywodraeth Cymru.

“Mae’r pwysau ar ein gwasanaethau brys yn parhau i fod yn uchel.

“Roedd nifer y derbyniadau i holl adrannau brys GIG Cymru a nifer cyfartalog y derbyniadau i adrannau achosion brys y dydd ym mis Awst 2021 ychydig yn is na’r mis blaenorol, ond roeddent yn dal yn uwch na’r llynedd.

“Rydym yn annog pobol i ystyried yr opsiynau gorau o ran gofal, ac nid o reidrwydd i fynd i’w hadran argyfwng leol. I gael gofal cywir, y tro cyntaf, gall pobol hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein 111 a’u fferyllydd lleol lle bo hynny’n briodol.”

Llywodraeth Cymru yn gwrthod galwadau i ddatgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru

“Mae angen i ni ddeall y pwysau sydd ar y system ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhywbeth lle gallwch chi bwyso swits a disgwyl i bethau newid”

‘Angen parhaus i atgyfnerthu trefniadau ar gyfer atal a rheoli Covid-19, yn enwedig mewn ysbytai’

Ond gofal iechyd Cymru wedi bod o “safon dda” dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru