Yn ôl adroddiad blynyddol y corff sy’n arolygu gofal iechyd yng Nghymru, mae’r safon wedi bod yn “dda” dros y flwyddyn ddiwethaf.
Er hynny, mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru’n nodi bod angen parhaus i atgyfnerthu trefniadau ar gyfer atal a rheoli haint, yn enwedig mewn ysbytai, er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19.
Mae’r adroddiad yn nodi bod newidiadau sylweddol wedi’u gwneud i amgylcheddau mewn lleoliadau gofal iechyd er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19.
Noda’r adroddiad ei bod hi’n amlwg bod y pandemig wedi cael effaith ar lesiant staff sy’n gweithio dan bwysau i gynnal gwasanaethau i gleifion, ac y bydd hyn yn parhau.
Wrth fynd ymlaen, bydd cefnogi llesiant staff a chydnabod yr effaith barhaus arnyn nhw yn hollbwysig i lwyddiant gofal iechyd.
Canfyddiadau
Drwy’r gwaith arolygu, daethpwyd i’r casgliad bod rhannu ardaloedd mewn ysbytai yn barthau, rhannu cleifion yn garfannau, systemau unffordd, a mesurau pellter cymdeithasol wedi’u rhoi ar waith yn gyflym ac yn effeithio er mwyn rheoli’r haint.
Ar y cyfan, cafodd trefniadau priodol eu rhoi ar waith i gyflawni rhaglennu brechu yn ddiogel, ac i ddarparu gofal mewn ysbytai maes.
Mae’n amlwg bod llawer o newidiadau a gafodd eu cyflwyno i ymdrin â heriau Covid-19 wedi newid y ffordd mae cleifion yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd, meddai’r adroddiad.
Er bod cyflymder cyflwyno’r newidiadau wedi bod yn “wych”, mae risgiau a heriau’n gysylltiedig â newid cyflym, meddai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Bydd angen adeiladu ar yr enghreifftiau gorau o arloesedd a newid, meddai’r adroddiad, er mwyn mynd i’r afael â’r galw digynsail am wasanaethau sydd ar hyn o bryd.
“Ymroddiad diflino”
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, fod “hon wedi bod yn flwyddyn na welwyd ei thebyg i wasanaethau gofal iechyd”.
“Er gwaethaf yr heriau digynsail a wynebwyd, mae ymroddiad diflino staff ym mhob rhan o’r sector gofal iechyd yng Nghymru wedi parhau i greu argraff fawr arnaf,” meddai.
“Mae unigolion a gwasanaethau wedi dangos arloesedd ac ymrwymiad sydd wedi arwain at gyflwyno newidiadau cymhleth ar gyflymder na fyddem yn ei weld fel arfer.
“Mae cleifion wedi parhau i gael eu trin gan staff sydd wedi dangos dro ar ôl tro eu bod yn poeni am y rhai y maent yn gofalu amdanynt.”
Yn sgil y pandemig, bu’n rhaid i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru addasu eu gwaith yn sylweddol er mwyn parhau â’u dyletswydd gan weithio o bell.
“Drwy addasu ein modelau gweithio, rwy’n falch bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi llwyddo i barhau i gyflawni ein nod o arolygu’r gofal a roddir i bobl yng Nghymru,” meddai Alun Jones.
“Rydym wedi gwneud cynnydd da dros y tair blynedd diwethaf i gyflawni ein strategaeth ‘Gwneud gwahaniaeth’.
“Wrth i ni bennu ein strategaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf, byddwn yn parhau i ddefnyddio ein rôl i annog gwelliant ym maes gofal iechyd, gan adeiladu ar y pethau gorau rydym wedi eu gwneud hyd yma i sicrhau’r effaith orau posibl.”