Daeth Josh Osbourne a Liz Day i’r brig yng nghategori ‘Dechrau Arni – Dechreuwyr Cymraeg’ y Gwobrau Ysbrydoli! eleni.
Mae’r gwobrau yn rhan o Wythnos Addysg Oedolion, sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon, a bu 12 o enillwyr yn ystod y seremoni.
Nod yr wythnos yw dathlu dysgu gydol oes, boed hynny mewn sefydliadau addysgol, drwy waith, gartref neu fel gweithgarwch hamdden.
Fel rhan o hynny, mae’r Gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod enillwyr dros Gymru sydd wedi dangos ymrwymiad at ddysgu gydol oes, adeiladu hyder, a datblygu cymunedau llwyddiannus a llewyrchus.
Josh Osbourne
Symudodd Josh Osbourne, 23, o Dorset i Abertawe yn ystod y pandemig gan ddod i fyw at ei bartner, sy’n siarad Cymraeg.
Penderfynodd ei fod am ddysgu’r iaith, a dechreuodd arni tra’r oedd dal yn byw yn Lloegr ac yn cwblhau ei radd meistr drwy gwrs arbrofol gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Aeth yn ei flaen i ddilyn cwrs Cymraeg dwys gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei redeg gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Genedlaethol.
“Almaenes yw fy mam, felly tyfais i i fyny ar aelwyd ddwyieithog. Doeddwn i ddim yn angerddol dros ieithoedd yn yr ysgol, ond pan wnes i’r penderfyniad i symud i Gymru i fyw gyda fy mhartner a’i theulu, roedd yn ymddangos yn naturiol y byddwn i’n dysgu siarad Cymraeg,” meddai Josh Osbourne.
“Mae fy mhartner yn siaradwraig Gymraeg rhugl, ac roeddwn i’n teimlo y byddai dysgu Cymraeg yn helpu i ddod â ni’n agosach at ein gilydd, ac agor ffyrdd newydd o gyfathrebu
“Fel pawb, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i mi. Roeddwn i’n teimlo’n ynysig ac yn unig. Cafodd effaith fawr ar fy iechyd meddwl. Roedd symud i Abertawe ym mis Mehefin 2020 braidd yn frawychus, ond roeddwn i wrth fy modd yn cael gwneud rhywbeth newydd a’r cyfle i archwilio’r mannau awyr agored hardd yma.”
Mae dysgu Cymraeg wedi helpu iechyd meddwl Josh Osbourne, ac roedd yn rhywbeth i’w gadw’n brysur yn ystod y pandemig.
“Rhoddodd ymdeimlad o ddiben a threfn i mi mewn cyfnod ansicr. Roedd yn rhywbeth y gallwn i gadw ato, lle gallwn i weld fy hun yn gwella o ddydd i ddydd”
“Y peth gorau am ddysgu Cymraeg yw pa mor ffonetig yw’r sillafu, sy’n gwneud pethau’n llawer haws. Gallwch chi weithio allan sut mae gair yn cael ei ynganu o’i sillafiad yn unig, yn wahanol i’r Saesneg.”
“Yr her fwyaf i mi yw’r eirfa. Mae’n gofyn am lawer o sgiliau cof, a dydy hynny ddim yn un o’m cryfderau i. Ond mae’n rhywbeth dwi wedi ei wella’n sylweddol o ganlyniad i’m gwersi Cymraeg.”
Mae Josh Osbourne ar fin dechrau ei gwrs chwe wythnos nesaf.
“Mae’n wallgof meddwl, yr adeg hon y flwyddyn ddiwethaf, nad oeddwn i hyd yn oed yn gallu dweud ‘Dwi’n hoffi coffi’, ond nawr fy mod i o fewn ychydig fisoedd i allu cynnal sgwrs yn y Gymraeg.”
“Mae’n anrhydedd i mi ennill y wobr ac mae’r diolch i gyd i’m tiwtoriaid Cymraeg – Helen, Gareth ac Angharad. Dwi’n gobeithio y bydd fy stori’n gallu ysbrydoli eraill i ddechrau eu taith eu hunain tuag at ddysgu Cymraeg.”
Liz Day
Collodd Liz Day, sy’n 33 oed ac yn byw ym Mhenarth, ei swydd ym mis Awst wrth i’w chyflogwr gwtogi’r gweithlu’n sgil y pandemig.
Penderfynodd droi sefyllfa negyddol yn un gadarnhaol, gan ymuno â chwrs Cymraeg dwys gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.
I Liz, mae’r wobr yn cynrychioli amser yn ei bywyd pan oedd hi’n teimlo wedi’i grymuso i roi cynnig ar rywbeth newydd.
“Roeddwn i wedi bod eisiau dysgu Cymraeg ers amser maith. Roedd fel petai fod yna rwystr bob tro,” meddai Liz Day.
“Roeddwn i wrth fy modd gyda fy swydd, ond roeddwn i’n barod am her newydd. Pan gefais i fy niswyddo, meddyliais ’nawr yw’r amser’.
“Fe wnes i astudio Ffrangeg fel myfyriwr israddedig, felly roeddwn i wedi dysgu iaith arall o’r blaen ac yn gallu trosglwyddo rhai o’r sgiliau a’r technegau hynny i’m cwrs Cymraeg.”
Ers llwyddo ar y cwrs, mae Liz Day wedi cwblhau mwy na 240 awr o ddosbarthiadau, 300 o ddiwrnodau ar Duolingo, ac wedi pasio arholiad llafar Sylfaen gyda sgôr o 98% – i gyd mewn cwta flwyddyn.
Ar ôl dechrau ar y cwrs Cymraeg, dechreuodd Liz Day bodlediad a blog ei hun, Liz Learns Welsh, i gofnodi ei thaith ac ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg.
“Fe wnes i sefydlu’r podlediad a’r blog Liz Learns Welsh fel ffordd o ymarfer siarad Cymraeg – yn ogystal â chreu rhywbeth y gallai pobl uniaethu ag ef ac a fyddai’n ysbrydoli mwy o bobl i roi cynnig arni.
“Gwnaeth un o’m ffrindiau hyd yn oed gofrestru ar gyfer y cwrs mynediad ar ôl darllen fy mlog. Mae hi newydd orffen y cwrs mynediad ac wedi pasio ei harholiad llafar. Mae’n deimlad anhygoel gwybod ei bod hi wedi cael ei hysbrydoli gan fy nhaith i,” meddai.
“Erbyn hyn, dwi’n teimlo’n fwy cysylltiedig â diwylliant y wlad wych hon. Dwi wrth fy modd yn gwylio sioeau teledu fel Iaith ar Daith ar S4C a gwrando ar artistiaid Cymraeg fel Thallo a Mared.”
“Fy uchelgais yw gweithio ym maes marchnata a chyfathrebu ar gyfer sefydliad celfyddydol, elusennol neu addysg lle galla i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.”
Ymroddiad “rhyfeddol”
Mae’r Gwobrau’n cael eu cyd-gysyllltu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
“Mae ymroddiad enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! eleni i wella eu hunain yn wirioneddol ryfeddol,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.
“Mae hi mor bwysig dathlu cyflawniadau eithriadol yr unigolion hyn a’r heriau maen nhw wedi’u goresgyn yn eu hymrwymiad i ddysgu.
“Wrth i ni edrych i’r dyfodol mewn byd ar ôl Covid, mae cyfleoedd i’n holl ddinasyddion gymryd rhan mewn dysgu a datblygu eu sgiliau beth bynnag fo’u hoedran yn allweddol i’r llwyddiant.”