Bydd Aelodau Seneddol yn clywed y diweddaraf am unrhyw gynlluniau posib i ddatblygu pwerdy niwclear newydd yn Wylfa Newydd heddiw (23 Medi).

Bydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn archwilio’r gefnogaeth sydd ei angen ar y sector i ddatblygu atomfeydd newydd, a’r tebygolrwydd y gwnaiff datblygwr newydd sefydlu pwerdy newydd ar Ynys Môn.

Daw hyn wedi methiant cynlluniau Horizon llynedd.

Yn ôl mudiad gwrth-niwlcear PAWB, Pobol Atal Wylfa B, mae’n “annerbyniol fod bore cyfan yn cael ei neilltuo i wrando ar un ochr o’r ddadl”.

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn ystyried y sefyllfa niwclear bresennol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, a rôl niwclear wrth gynhyrchu ynni yn y dyfodol.

Yn ystod y bore, bydd pedwar panel yn rhoi tystiolaeth, gan gynnwys prif weithredwr y Gymdeithas Diwydiant Niwclear, a phrif weithredwr y Labordy Niwclear Cenedlaethol.

Byddan nhw’n ystyried stad y sector niwclear gydag arbenigwyr o’r diwydiant, yn clywed gan ddatblygwyr posib, ac yn clywed gan arbenigwr polisi Adran Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant San Steffan ynghylch sut maen nhw’n gweld niwclear yn cyd-fynd ag agenda gwyrdd y Llywodraeth.

“Dirwyiad hirdymor”

Mae PAWB yn pwyso ar y Pwyllgor Materion Cymreig i drefnu sesiwn i wrando ar safbwyntiau gwrth-niwclear hefyd.

“Y gwirionedd yw mai diwydiant mewn cyflwr o ddirywiad hirdymor yw’r diwydiant niwclear, a mwy priodol o lawer fyddai i Lywodraethau San Steffan a Chaerdydd roi pob blaenoriaeth i dechnolegau amrywiol ynni adnewyddadwy ac anghofio am ynni niwclear sy’n fudr, peryglus, eithafol o ddrud ac yn fygythiad i’r amgylchedd ac i iechyd dynol,” meddai PAWB mewn datganiad.

“Pwyswn arnoch i drefnu sesiwn i wrando ar safbwyntiau gwrth-niwclear gan gynnwys grwpiau ymgyrchu fel PAWB, CND Cymru, Greenpeace a’r Awdurdodau Lleol Diniwclear.

“Dylech hefyd wahodd academyddion blaenllaw fel Dr Paul Dorfman o Brifysgol Llundain, Dr Stephen Thomas o Brifysgol Greenwich a Dr Phil Johnstone o Brifysgol Sussex i’ch annerch ar wahanol agweddau o ynni niwclear.

“Fel y gwyddoch, mae Hitachi wedi dirwyn eu prosiect yn y Wylfa a chwmni Horizon Nuclear i ben.

“Nid oedd Hitachi yn barod i dalu am ei adweithydd niwclear ei hun, ac nid oedd unrhyw fuddsoddwyr eraill ar gael i wneud y buddsoddiad drostynt.

“Credwn mai ymarfer mewn dangos eu bod yn dal yma yw sesiwn bore dydd Iau i gynrychiolwyr y diwydiant niwclear ac y byddant yn ceisio’ch darbwyllo o’r angen am nawdd cyhoeddus enfawr i’r diwydiant i’w gadw’n fyw.”

Fe wnaeth cadeirydd cyntaf Pwyllgor Newid Hinsawdd San Steffan, yr Arglwydd Turner, ddweud yn gyhoeddus ddoe nad yw’n cefnogi ynni niwclear mwyach gan ddweud nad oes ei angen.

“Dyma ŵr busnes craff sydd wedi pwyso a mesur yn ofalus cyn gwneud y fath ddatganiad cyhoeddus,” meddai PAWB.

Darllen mwy

Wylfa Newydd: Horizon yn tynnu cais cynllunio yn ôl

Bydd yr is-gwmni yn dirwyn i ben ddiwedd mis Mawrth

Gwaith dymchwel safle Wylfa ar fin dechrau

Bydd 13 adeilad yn cael eu dymchwel fel rhan o’r cynlluniau cynnar i ddadgomisiynu’r safle

PAWB: “Syndod” yn dilyn adroddiadau bod Llywodraeth Cymru “mewn trafodaethau gyda Hitachi”

Y mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio “dargyfeirio miliynau o bunnoedd o arian pobl Cymru” at bryniant safle Wylfa

Llywodraeth Cymru ‘wedi ceisio achub Wylfa drwy ei gymryd drosodd gan Hitachi’

Y Sunday Times yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â Hitachi i drafod y sefyllfa