Mae’r gwaith o ddymchwel safle gorsaf niwclear Wylfa ar fin dechrau.

Bydd y broses yn parhau am sawl degawd er mwyn cael gwared â’r holl adnoddau mor ddiogel â phosib.

Fe gafodd yr orsaf ger Cemaes yn Ynys Môn ei chau yn 2015, a wnaeth ymdrechion diweddarach i’w hailagor ddim dwyn ffrwyth.

Roedd cwmni Magnox yn gweithredu’r orsaf ers 1971.

Yn ystod y 44 blynedd hynny, roedd yn un o gyflogwyr mwyaf yr Ynys, ac yn gallu pweru cyfwerth â mwy na miliwn o dai.

Oherwydd y gwaith dadgomisiynu, mae nifer o bobol yn parhau i gael eu cyflogi ar y safle.

Gwaith dymchwel

Yn y cynlluniau diweddaraf, bydd 13 adeilad yn cael eu dymchwel mor gynnar â mis Hydref, gan eu bod nhw’n ddiangen a ddim yn effeithio ar y brif orsaf.

“Does bellach ddim angen yr adeiladau sydd i’w dymchwel at ddibenion gweithredol ar safle Wylfa,” meddai’r dogfennau cynllunio.

“Mae’r gwaith dymchwel yn cael ei gynnig yn rhan o ddadgomisiynu ehangach safle Wylfa, gyda bwriad i’r gwaith ddechrau’n fuan.

“Fel sy’n ofynnol o’r rheoliadau, bydd yr adeiladau’n cael eu dymchwel i lawr ar ben eu slabiau adeiladu priodol.

“Bydd yr holl wastraff sy’n deillio o hyn yn cael ei symud o’r safle, gydag unrhyw olewau ac ati yn cael eu cludo fel gwastraff peryglus neilltuol.”