Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi beirniadu Bil Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig gan ddweud ei fod yn “dadfeilio pwerau llywodraethau datganoledig yn fwriadol”.
Daw sylwadau Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yn dilyn ail ddarlleniad o’r Bil yn San Steffan ddoe (dydd Mercher, Medi 22).
Mae’r Bil yn rhoi rheolaeth lawn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig o gynllun cymorth y wladwriaeth, gan ddisodli’r drefn flaenorol o ddilyn cynllun yr Undeb Ewropeaidd o ddyfarnu cymorthdaliadau megis grantiau, benthyciadau a gwarantau.
Yn ei hanfod, fe fydd y ddeddfwriaeth newydd yn atal y Senedd rhag penderfynu sut gall cymorthdaliadau i fusnesau gefnogi economi Cymru ac adlewyrchu blaenoriaethau Cymru.
Cafodd y pwerau yn y maes hwn eu canoli i San Steffan drwy Ddeddf y Farchnad Fewnol ar ôl i’r Ceidwadwyr feirniadu’r drefn oedd ar waith yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ymateb Liz Saville Roberts
Mae Liz Saville Roberts wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Deyrnas Unedig yn rhif 22 allan o 28 o wladwriaethau oedd yn aelodau o ran buddsoddiad.
Mae’n dweud bod y diffyg buddsoddiad hwn yng Nghymru’n ymwneud ag “ideoleg Geidwadol yn hytrach nag unrhyw broblem gynhenid”.
“Rwy’n nodi bod y Ceidwadwyr fel pe baen nhw’n parhau â’u dawn o feio’r Undeb Ewropeaidd am bopeth – i bob pwrpas,” meddai.
“Mae’n rhaid i ni gofio bod y Deyrnas Unedig yn cael ei hadnabod am dan-ddefnyddio rheolau cymorthdaliadau gwladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd – roedden ni’n ail ar hugain allan o 28 o wladwriaethau oedd yn aelodau yn 2018, sy’n awgrymu efallai bod y broblem yn ymwneud ag ideoleg Geidwadol yn hytrach nag unrhyw broblem gynhenid.
“Bydd y Bil hwn yn sathru ar gymhwyseddau datganoledig.
“A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod y Bil hwn yn adlewyrchu ideoleg Geidwadol newydd; sydd yn dadfeilio pwerau llywodraethau datganoledig a’u hatebolrwydd fel llywodraethau etholedig?”