Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi bod eu dyledion net wedi codi i £114.4m, ond eu bod nhw wedi gwneud elw cyn treth o £400,000 hyd at ddiwedd mis Mehefin.

Mae’r Undeb wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Blynyddol heddiw (dydd Iau, Medi 23), ac mae’n dangos effaith y pandemig ar y gêm yng Nghymru.

Roedd eu trosiant i lawr i £58.1m o £79.9m y llynedd, tra bod y cynnydd o £17.2m yn eu dyledion yn tynnu sylw at y camau angenrheidiol a gafodd eu cymryd i oresgyn effeithiau’r pandemig.

Trwy fenthyciadau a chymorth gan Lywodraeth Cymru, cafodd £34.6m ei fuddsoddi yn y gêm a’r rhanbarthau.

Ond mae hyn wedi cynyddu dyledion net yr Undeb o £38.8m i £114.4m, gyda’u hincwm i lawr o £40.3m i £27.2m, ac incwm o’u gemau i lawr o £33m i £22.6m, tra nad oedd unrhyw incwm o letygarwch nac arlwyo yn sgil absenoldeb cefnogwyr.

‘Cyfforddus’

Er gwaetha’r newyddion, mae Steve Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, yn credu bod y corff llywodraethu mewn sefyllfa “gyfforddus” i symud yn ei flaen ac i ailadeiladu ar ôl y pandemig.

“O’r chwaraewyr wnaeth aberthu eu bywydau cartref i ymuno â swigod, i’r gwirfoddolwyr yn y gêm gymunedol oedd wedi dilyn y llwybrau cyhoeddedig i ddychwelyd i chwarae yn ddiwyd a’r cefnogwyr eu hunain – oedd yn arloeswyr yn yr haf wrth iddyn nhw ddychwelyd i Stadiwm Principality yn eu niferoedd cyfyngedig – mae pawb wedi chwarae eu rhan i’n cael ni i’r fan hon, gyda’n gilydd,” meddai.

“Rydym wedi goroesi’r hyn gafodd ei daflu atom yn ystod YE21 [y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben yn 2021] ac rydym wedi dod allan mewn lle cyfforddus i allu symud ymlaen ac ailadeiladu ein dyfodol.

“Fydd hi ddim yn hawdd, ac er mwyn i’r fath ailadeiladu fod yn llwyddiannus, rydym yn eithriadol o ddibynnol ar ein gallu i gynnal gemau rhyngwladol gyda thorfeydd llawn yn ein stadiwm.

“Dyma ein gyrrwr economaidd allweddol sy’n tanio’r gêm ehangach a rhaid hefyd fod gennym ni degwch wrth chwarae yn erbyn ein cydweithwyr a’n cystadleuwyr o fewn y twrnamaint y mae ein timau proffesiynol yn chwarae ynddyn nhw.”