Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn credu bod digonedd o elfennau positif yn eu perfformiad ar ôl i’r clwb golli 2-0 oddi cartref yn erbyn Brighton yng Nghwpan Carabao.

Sgoriodd Aaron Connolly ddwy gôl yn yr hanner cyntaf i sicrhau’r fuddugoliaeth i ddynion Graham Potter, cyn-reolwr Abertawe, ond roedd yn gêm agored a chyffrous, gyda’r Elyrch yn creu cryn dipyn o gyfleoedd.

Daeth cyfleoedd gorau Abertawe wrth i Liam Cullen a Korey Smith daro’r bar yn yr ail hanner.

‘Rhwystredig’

“Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n ardderchog yn ystod rhannau helaeth o’r gêm,” meddai Russell Martin.

“Dechreuon ni’n wych a phwyso’n ymosodol ac uchel iawn.

“Cawsom ychydig o gyfleoedd wedi hynny, a dylem fod wedi sgorio’n gynnar oherwydd cawsom gyfleoedd gwych, felly mae hynny’n rhwystredig.

“Aethon ni ychydig yn nerfus wedyn.

“Roedd yno saith gwr sy’n 22 oed neu iau yn yr unarddeg cychwynnol, a gwnaethom gicio’r bêl i ffwrdd yn ormodol a chymryd gormod o opsiynau hawdd heb ddangos y dwyster i frifo Brighton a chwarae drwyddyn nhw.

“Dyna oedd y rhwystredigaeth ar hanner amser.

“Fe ddaeth ar ôl i ni ildio dwy gôl gwael, a byddwn yn mynd i ffwrdd ac yn dadansoddi hynny.

“Fe gawson ni bum cyfle enfawr y tu mewn i’w cwrt cosbi, ond wnaethon ni ddim sgorio.

“Mae hynny’n rhwystredig oherwydd pe baen ni’n sgorio yna mae hi’n gêm wahanol gan ein bod ni’n rheoli’r gêm.

“Ro’n i’n rhwystredig oherwydd bod yr hogiau yn haeddu canlyniad am eu hymdrechion, yn enwedig yn yr ail hanner.

“Roedd yno ddiffyg ofn yn yr ail hanner – fe wnaethon ni chwarae gyda dewrder ac argyhoeddiad llwyr yn yr hyn rydyn ni eisiau bod – sy’n braf iawn.

“Mae’n rhoi digonedd i ni fod yn bositif amdano, llawer i edrych ymlaen ato, a llawer i’w ddadansoddi a dysgu ohono.”