Bydd cyn-faswr Cymru, Rhys Priestland, yn chwarae yn ei gêm gystadleuol gyntaf i Gleision Caerdydd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Wener (24 Medi).

Mae’r gêm yn cael ei chwarae ar Barc yr Arfau, Caerdydd, gyda’r gic gyntaf am 7:35yh.

Mae Priestland, 34, wedi chwarae mewn dwy gêm gyfeillgar ers ymuno â Gleision Caerdydd o Gaerfaddon dros yr haf

Bydd yn gobeithio ffurfio partneriaeth effeithiol gyda Lloyd Williams, sy’n chwarae yn safle’r mewnwr.

Mae’n bwysig bod Gleision Caerdydd y gwneud dechrau da i’r tymor, yn ôl Dai Young, cyfarwyddwr rygbi’r rhanbarth.

“Mae pwysau ychwanegol i gael canlyniad oherwydd bod y gemau cyntaf yn ymwneud ag ennill pwyntiau.

“Rydych chi eisiau ennill gemau ond rydych chi hefyd eisiau eistedd yn ôl ar ôl y pum gêm a bod yn hapus gyda’r nifer o bwyntiau sydd gennych.

“Mae gennym bedair allan o bum gêm gartref felly mae’n ddechrau hynod bwysig i ni ac mae angen i ni gael cynifer o bwyntiau â phosib.

“Parch”

“Mae gen i barch enfawr at Connacht,” meddai Dai Young wedyn.

“Maen nhw’n chwarae brand gwych o rygbi ac os nad ydyn ni ar ein gorau yna fe fyddwn ni’n colli. Mae mor syml â hynny.

“Bydd yn anodd ond rydym yn hyderus yn gallwn sicrhau’r canlyniad.”

Tîm Caerdydd: Hallam Amos; Owen Lane, Rey Lee-Lo, Willis Halaholo, Jason Harries; Rhys Priestland, Lloyd Williams; Corey Domachowski, Kirby Myhill, Dmitri Arhip, Seb Davies, Matthew Screech, Josh Turnbull (capt), Ellis Jenkins, James Ratti.

Eilyddion: Liam Belcher, Rhys Carré, Dillon Lewis, Rory Thornton, Will Boyde, Tomos Williams, Jarrod Evans, Max Llewellyn.

Tîm Connacht: Tiernan O’Halloran; John Porch, Tom Farrell, Tom Daly, Mack Hansen; Jack Carty, Kieran Marmion; Matthew Burke, Shane Delahunt, Finlay Bealham, Oisin Dowling, Ultan Dillan, Cian Prendergast, Conor Oliver, Jarrad Butler (capt).

Eilyddion: Dave Heffernan, Jordan Duggan, Dominic Robertson-McCoy, Niall Murray, Paul Boyle, Hubert Gilvarry, Conor Fitzgerald, Sammy Arnold.