Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Steve Thompson wedi ymrwymo i roi ei ymennydd i ymchwilwyr – yr athletwr cyntaf i wneud hynny.

Fe gafodd y gŵr 43 oed, a enillodd Cwpan Rygbi’r Byd gyda Lloegr yn 2003, wybod y llynedd bod ganddo ddementia cynnar.

Roedd o a chyn-chwaraewyr eraill sydd wedi datblygu’r clefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n dwyn achos yn erbyn awdurdodau rygbi.

Yn eu plith oedd chwe Chymro, yn cynnwys Alix Popham, sydd hefyd wedi cael diagnosis o ddementia.

Bydd y Concussion Legacy Project yn gwneud ymchwil er mwyn gweld effaith trawma ymennydd ar unigolion.

Mae’r prosiect hwnnw’n cael ei gefnogi gan y Concussion Legacy Foundation a’r Jeff Astle Foundation, a gafodd ei ddechrau i gofio’r pêl-droediwr a fu farw o’r clefyd.

“Gwneud y gêm yn fwy diogel”

Mae Steve Thompson yn dweud ei fod wedi colli pob cof o ennill Cwpan Rygbi’r Byd yn 2003.

“Rwy’n gadael fy ymennydd fel bod dim rhaid i blant y bobol rydw i’n eu caru fynd drwy’r hyn rydw i wedi mynd drwyddo,” meddai.

“Mae fyny i fy nghenhedlaeth i addo eu hymennydd fel bod ymchwilwyr yn gallu datblygu gwell triniaethau a ffyrdd o wneud y gêm yn fwy diogel.”

“Annog teuluoedd”

Roedd Dawn Astle, a wnaeth sefydlu’r Jeff Astle Foundation yn enw ei thad, yn croesawu’r fenter ddiweddaraf er mwyn deall effaith dementia ar athletwyr.

“Rhoi ymennydd yw’r anrheg fwyaf gwerthfawr i bawb ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o bêl-droedwyr,” meddai.

“Efallai y bydd hi’n flynyddoedd lawer cyn i’r jig-so hwn gael ei gwblhau, ond trwy ychwanegu pob darn, un ar y tro, dyma’r unig ffordd y byddwn ni’n deall y gwir lun ac yn gallu gwneud dyfodol gwell i eraill.

“Mae’r Jeff Astle Foundation yn annog teuluoedd cyn-athletwyr a chyn-filwyr i roi ymennydd eu hanwyliaid i’r Concussion Legacy Project.”