Mae hi’n edrych yn debygol iawn bellach y bydd Morgannwg a Surrey yn gorffen yn gyfartal yng ngêm ola’r tymor criced ar yr Oval.
Wrth ymateb i 672 am chwech Morgannwg cyn iddyn nhw gau eu batiad cyntaf, mae Surrey yn 387 am ddwy ar lain sy’n cynnig bron dim cymorth i’r bowlwyr.
Dechreuodd Surrey y trydydd diwrnod ar 45 heb golli wiced, 627 o rediadau y tu ôl i Forgannwg, ond maen nhw bellach ar ei hôl hi o 285 gydag wyth wiced o’r batiad cyntaf yn weddill.
Ar ddiwrnod rhwystredig i Forgannwg, dim ond y troellwr coes achlysurol Eddie Byrom, sydd ar fenthyg o Wlad yr Haf cyn symud yn barhaol y tymor nesaf, sydd wedi cipio wicedi hyd yn hyn a’r rheiny’n wicedi cyntaf ei yrfa broffesiynol.
Ryan Patel, y batiwr llaw chwith, oedd y cyntaf allan wrth iddo fe gael ei ddal yn y slip gan David Lloyd am 62. Roedd Patel a Jamie Smith wedi ychwanegu 140 am y wiced gyntaf.
247 oedd y sgôr pan gwympodd yr ail wiced, wrth i Smith gael ei ddal i lawr ochr y goes gan y wicedwr Chris Cooke – daeth ei 138, sef sgôr gorau ei yrfa ddosbarth cyntaf, oddi ar 236 o belenni ac fe darodd e 17 pedwar mewn 276 o funudau.
Dyma’i drydydd canred y tymor hwn, a dim ond ei bedwerydd mewn criced dosbarth cyntaf.
Mae canred o fewn cyrraedd Hashim Amla (87 heb fod allan) ac Ollie Pope (95 heb fod allan), ond mae’r fuddugoliaeth ymhellach o afael Morgannwg gyda dim ond diwrnod yn weddill o’r ornest a’r tymor sirol.
Colli sawl cyfle
Ond dim ond Morgannwg eu hunain sydd ar fai am fethu â chipio wiced Amla, a allai fod wedi cael ei ddal dair gwaith yn ystod ei fatiad hyd yn hyn.
Daeth y cyfle cyntaf i’r bowliwr cyflym llaw chwith Jamie McIlroy, cyn i Cooke ei ollwng y tu ôl i’r wiced oddi ar fowlio Byrom. Daeth y trydydd cyfle i Lloyd yn y slip oddi ar fowlio Taylor ym mhelawd olaf ond un y diwrnod.
Cafodd Patel ei ollwng gan Byrom yn y slip ar 66 hefyd, a Smith wedyn yn cael ei ollwng gan Hamish Rutherford ar yr ochr agored oddi ar fowlio’r troellwr Callum Taylor.
Yn ôl pob tebyg, dyma’r tro cyntaf erioed i’r 12 batiwr cyntaf wrth y llain sgorio mwy na 35 yr un yn hanes y gêm sirol, a dyma’r tro cyntaf ers 1995 i Surrey adeiladu partneriaethau o 100 neu fwy am dair wiced gynta’r batiad.
Wicedwr Morgannwg yn trechu record Eifion Jones
Canred cynta’r tymor i David Lloyd yn gosod seiliau cadarn i Forgannwg ar yr Oval
Morgannwg yn teithio i’r Oval ar gyfer gêm ola’r tymor criced