Mae Elliot Thorpe, sy’n chwarae i Gymru Dan-21, wedi arwyddo i Luton Town.

Daw hyn wedi i’r chwaraewr canol cae 20 oed adael Tottenham Hotspur, lle’r oedd wedi gwrthod cytundeb newydd.

Bu’n hyfforddi gyda Luton Town, sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth, ers diwedd y tymor diwethaf.

Ymunodd â Spurs yn 2013 o Gaergrawnt ac roedd yn rhan o’r garfan orffennodd yn ail yn Uwch Gynghrair Dan 18 yn 2019, gan sgorio unwaith mewn buddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Fulham.

Ni chwaraeodd Thorpe gêm i dîm cyntaf Spurs.

“Mae’n ifanc, yn dechnegol gadarn ac yn chwaraewr canol cae dawnus iawn,” meddai rheolwr Luton Town, Nathan Jones ar wefan y clwb.

“Cyfle gwych”

“Rwy’n falch iawn o fod yma, mae wedi bod yn broses hir ond yn un sy’n sicr yn mynd i fod yn werth yr aros,” ychwanegodd Thorpe.

“Rwy’n ymuno â chlwb gyda rheolwr da iawn, grŵp gwych o chwaraewyr ac rwy’n credu ei fod yn addas i mi.

“Cefais gyfarfod gyda’r rheolwr ac roeddwn i’n gwybod yn syth mai Luton oedd y lle i mi.

“Mae’n gyfle gwych i mi felly mae’n rhaid i mi ei fachu gyda’r ddwy law.”