Mae gêm griced olaf Morgannwg y tymor hwn yn erbyn Surrey ar yr Oval wedi gorffen yn gyfartal, wrth i’r wicedwr Chris Cooke fowlio pelawd ola’r tymor a’r bowliwr cyflym Michael Hogan yn cadw wiced i’r ymwelwyr am gyfnod ar ddiwedd yr ornest.

Dyma’r tro cyntaf erioed i Cooke fowlio mewn gêm sirol, ac roedd Morgannwg yn barod i drio unrhyw beth yn y gobaith o gipio ambell wiced er gwaetha’r anobaith, gan gynnwys penderfynu y byddai pob un o’r unarddeg chwaraewr ar y cae yn bowlio rywfaint – rhai ohonyn nhw am y tro cyntaf erioed.

Ar ôl i Forgannwg sgorio 672 am chwech wrth gau eu batiad cyntaf, dechreuodd Surrey y diwrnod olaf ar 387 am ddwy, gyda’r ddau dîm yn gwybod fod y fuddugoliaeth y tu hwnt i’w cyrraedd ar lain oedd wedi cynnig ychydig iawn o gymorth i’r bowlwyr o’r dechrau’n deg.

Tarodd Ollie Pope 274, sgôr gorau ei yrfa, a Hashim Amla 163 wrth i’r tîm cartref gau eu batiad a dirwyn yr ornest i ben ar 722 am bedair, eu cyfanswm dosbarth cyntaf uchaf erioed yn erbyn Morgannwg.

Dros y pedwar diwrnod, cafodd 1,394 o rediadau eu sgorio a dim ond deg wiced eu cipio a’r un ohonyn nhw’n mynd i fowliwr cyflym.

Roedd partneriaeth Pope ac Amla’n 362 erbyn diwedd y gêm, sy’n record i’r sir mewn gêm dosbarth cyntaf am y wiced honno.

Cafodd Amla ei ddal gan Hogan oddi ar fowlio Kiran Carlson yn y pen draw wrth i Surrey golli eu trydedd wiced – dyma ganred dosbarth cyntaf rhif 55 y batiwr o Dde Affrica.

Erbyn i fatiad Amla ddod i ben, roedd e wedi wynebu 306 o belenni gan daro 14 pedwar mewn bron i saith awr wrth y llain.

Aeth Pope y tu hwnt i’w sgôr gorau erioed yn fuan wedyn, a sgoriodd y wicedwr Ben Foakes 53 heb fod allan i gadw ei obeithion o gael ei ddewis ar gyfer taith y Lludw i Awstralia yn fyw.

Yn ystod ei fatiad, aeth Pope y tu hwnt i’r sgôr dosbarth cyntaf gorau i Surrey yn erbyn Morgannwg, gan guro 248 heb fod allan Andy Sandham yn 1928 a 257 David Bedingham.

Cafodd Pope ei fowlio gan y troellwr llaw chwith achlysurol Hamish Rutherford cyn te – a hon oedd wiced gynta’r chwaraewr o Seland Newydd mewn gêm dosbarth cyntaf.

Batiodd Pope am chwe awr ac 11 munud, gan wynebu 345 o belenni a tharo un chwech a 35 pedwar.

Pan ddaeth y chwaraewyr oddi ar y cae yn y pen draw, cafodd Rikki Clarke y gymeradwyaeth fwyaf, wrth iddo gerdded oddi ar y cae am y tro olaf cyn ymddeol.

Cnoi cil ar ymgyrch siomedig

Ar y cyfan, bydd Morgannwg yn edrych yn ôl ar eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth ac yn sylweddoli y gallen nhw ac y dylen nhw fod wedi gwneud tipyn gwell.

Dydyn nhw ddim wedi ennill yr un gêm yn y cyfnod ers iddyn nhw ennill Cwpan Royal London ddechrau mis diwethaf.

Efallai bod y galwadau ar i’r tîm hyfforddi gamu o’r neilltu yn hallt, ond mae angen i rywbeth newid ar ôl ymgyrch mor siomedig mewn gemau pedwar diwrnod.

Mae’r canlyniadau’n dangos i raddau helaeth eu bod nhw wedi bod yn or-ddibynnol ar Marnus Labuschagne, yr Awstraliad sydd wedi’u cynnal nhw dros y tymhorau diwethaf. Yn ei absenoldeb, fe ddaeth y gwendidau’n amlycach fyth.

 

Gêm Morgannwg a Surrey yn llusgo tua’i therfyn ar yr Oval

Surrey yn 387 am ddwy yn eu batiad cyntaf wrth ymateb i 672 am chwech Morgannwg, gyda diwrnod yn unig yn weddill o’r gêm a’r tymor sirol
Chris Cooke

Wicedwr Morgannwg yn trechu record Eifion Jones

Chris Cooke wedi sgorio 205 heb fod allan ar yr Oval, y sgôr gorau erioed gan wicedwr wrth fatio i Forgannwg gan guro 146 heb fod allan Jones yn 1968
David Lloyd

Canred cynta’r tymor i David Lloyd yn gosod seiliau cadarn i Forgannwg ar yr Oval

Dyma’r tro cyntaf i’r chwaraewr amryddawn o’r gogledd daro canred wrth agor y batio i’r sir

Morgannwg yn teithio i’r Oval ar gyfer gêm ola’r tymor criced

Mae eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth wedi bod yn ddigon siomedig eleni