Mae Chris Cooke wedi trechu record Eifion Jones am y sgôr gorau gan wicedwr wrth fatio i Forgannwg.

Ar ail ddiwrnod eu gêm yn erbyn Surrey ar yr Oval, tarodd Cooke 205 heb fod allan wrth i Forgannwg sgorio 672 am chwech cyn cau’r batiad – eu trydydd sgôr gorau erioed yn y Bencampwriaeth.

Eu sgôr gorau erioed yw 718 am dair wedi cau’r batiad, a hynny yn erbyn Sussex yn Llandrillo yn Rhos yn 2000, ond eu hail sgôr gorau yw 702 am wyth wedi cau’r batiad a hynny hefyd yn erbyn Surrey ar yr Oval yn 2009.

Roedd sgôr Cooke yn rhagori ar 146 heb fod allan gan Eifion Jones, record wnaeth e ei gosod yn erbyn Sussex yn Hove yn 1968.

Roedd cyfraniadau gwerthfawr eraill yn ystod y batiad hefyd – David Lloyd â’i sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed o 121, Kiran Carlson 69, Joe Cooke â’i sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed o 68 a 59 i Dan Douthwaite.

Sgôr gorau Chris Cooke cyn heddiw oedd 171, ond doedd e ddim yn cadw wiced yn y gêm honno yn erbyn Caint yng Nghaergaint yn 2014.

Ar ddiwedd y dydd, roedd Surrey yn 45 heb golli wiced yn eu batiad cyntaf, 627 o rediadau y tu ôl i Forgannwg.

Manylion yr ail ddiwrnod

Dechreuodd Morgannwg yr ail ddiwrnod ar 379 am bedair, gyda Cooke heb fod allan ar 44 a Kiran Carlson heb fod allan ar 45 ac roedd eu partneriaeth eisoes yn werth 90 am y pumed wiced.

Adeiladodd Cooke a Dan Douthwaite bartneriaeth o 189 mewn 51 pelawd am y chweched wiced, a hynny ar ôl i Cooke a Kiran Carlson sgorio 140 rhyngddyn nhw am y pumed wiced.

Cafodd Carlson ei ddal yn gampus gan Dan Moriarty yn sgwâr ar ochr y goes oddi ar fowlio’r troellwr Will Jacks, cyn i Douthwaite (59) gael ei ddal wrth yrru’n syth ar ochr y goes oddi ar fowlio troellwr arall, Amar Virdi.

Daeth batiad Cooke oddi ar 299 o belenni ar ôl batio am chwe awr namyn pum munud, gan daro un chwech a 18 pedwar.

Erbyn i fatiad Morgannwg ddod i ben, roedd Cooke a Callum Taylor wedi ychwanegu 54 am y seithfed wiced, gyda Taylor heb fod allan am 38 oddi ar 57 o belenni.

Er i Forgannwg sgorio dim ond 87 mewn 34 o belawdau cyn cinio, fe wnaethon nhw gyflymu’r gyfradd yn ystod y prynhawn, gan sgorio 145 mewn 32 o belawdau.

Mae’n golygu bod gan Forgannwg ddeuddydd cyfan i fowlio Surrey allan ddwywaith, ac mae’n siŵr y byddan nhw’n teimlo’n hyderus o sicrhau’r fuddugoliaeth o ystyried ei bod hi’n annhebygol y bydd rhaid iddyn nhw fatio eto.

David Lloyd

Canred cynta’r tymor i David Lloyd yn gosod seiliau cadarn i Forgannwg ar yr Oval

Dyma’r tro cyntaf i’r chwaraewr amryddawn o’r gogledd daro canred wrth agor y batio i’r sir

Morgannwg yn teithio i’r Oval ar gyfer gêm ola’r tymor criced

Mae eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth wedi bod yn ddigon siomedig eleni