Bydd diffibrilwyr yn cael eu gosod ymhob clwb rygbi yng Nghymru, am ddim, fel rhan o bartneriaeth rhwng Undeb Rygbi Cymru ac elusen Calon Hearts.
Fe fydd miloedd o bobol yn manteisio’n sgil y cynllun, yn ôl Undeb Rygbi Cymru, gan fod dros 300 o glybiau’n cynnal gemau rygbi dros y wlad.
Dangosa ystadegau fod y gyfradd goroesi ar ôl cael ataliad ar y galon tu allan i’r ysbyty yn 3%. Pan mae diffibrilwyr yn cael eu defnyddio, mae’r ganran yn codi i 47%.
Yn ddiweddar, bu farw chwaraewr rygbi ifanc, Alex Evans, wrth chwarae i Gwmllynfell, ac mae’r digwyddiad, a’r hyn ddigwyddodd o Christian Eriksen yn ystod gemau’r Ewros, wedi arwain at alwadau am gynyddu nifer y diffibrilwyr sydd ar gael i gymunedau.
“Help hanfodol”
“Bydd y cynllun yn cynnig help hanfodol a chefnogaeth i ein gêm wrth i ni geisio ailddechrau’n ddiogel ar ôl effaith y pandemig,” meddai Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John.
“Mae diffibrilwyr wedi bod yn destun trafod gyda chlybiau ac ar Lefel y Bwrdd Cymunedol dros yr wythnos ddiwethaf a hoffwn ddiolch i bawb sydd ynghlwm â chyflwyno’r cynllun hwn.
“Mae hwn yn ymrwymiad ariannol sylweddol gan ein Bwrdd, ond mae’n un fydd yn achub bywydau ac a fydd yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar iechyd y genedl yn ogystal â’r gêm gymunedol yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gwybod bod yna glybiau sydd gyda diffibrilwyr yn barod, ond mae yna nifer o ardaloedd lle nad ydyn nhw wedi cael eu prynu oherwydd diffyg cyllid ac rydyn ni wedi cael gwared ar y rhwystr hwnnw nawr.
“I’r clybiau sydd ar y blaen ar y mater yn barod, ac sydd gan beiriannau eu hunain, byddwn ni dal mewn sefyllfa i gynnig cefnogaeth ychwanegol, boed hynny drwy beiriannau ychwanegol i gaeau hyfforddi neu adeiladau’r clwb, cyflwyno peiriannau symudol, neu gwrdd â’r gost ar gyfer peiriannau sydd wedi’u prynu eisoes.”
“Amddiffyn cymunedau”
Elusen Calon Hearts fydd yn cyflenwi’r diffibrilwyr, rheoli’r gwaith o’u gosod, a chynnig hyfforddiant perthnasol i wirfoddolwyr mewn clybiau ynghylch sut i’w defnyddio a’u cadw.
“Does yna ddim digon o diffibrilwyr yng Nghymru na phobol â hyfforddiant i roi’r cyfle gorau i gleifion allu goroesi yn ystod yr ychydig funudau cyntaf hollbwysig ac felly rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Undeb Rygbi Cymru am eu cefnogaeth gyda’r cynllun,” meddai Cyfarwyddwr Diffibrilwyr a Sgrinio Cymru Calon Heart, Sharon Owen.
“Rydyn ni’n gobeithio na fydd y diffibrilwyr byth yn gorfod cael eu defnyddio, ond os ydyn nhw’n cael eu defnyddio bydd nifer o fywydau yng Nghymru yn cael eu hachub o ganlyniad.
“Pan mae rhywun yn cael ataliad ar y galon, mae eu siawns o oroesi’n gostwng 14% gyda phob munud sy’n mynd heibio, felly mae ymateb yn sydyn yn hanfodol.
“Mae diffibriliad cynnar – o fewn pedwar i bum munud – yn rhoi’r siawns gorau i oroesi.
“Gyda mynediad at fwy o diffibrilwyr mewn clybiau rygbi dros y wlad, gall Calon Hearts helpu ein partneriaid yn y gwasanaethau brys i wella’r siawns fod person yn goroesi ac amddiffyn ein cymunedau.”
Bydd rhywun sy’n cael ataliad ar y galon yn mynd yn anwybodol, ni fydden nhw’n anadlu a ni fydd arwyddion fod ganddyn nhw gylchrediad gwaed. Mae diffibrilwyr yn cael eu defnyddio i roi sioc i’r galon ar ôl yr ataliad.
Yng Nghymru, mae tua 8,000 o bobol yn cael ataliad ar y galon tu allan i ysbytai bob blwyddyn.
“Calon ac enaid Cymru”
“Mae hwn yn gynllun anhygoel ac mae Bwrdd Undeb Rygbi Cymru yn hapus iawn i’w gefnogi,” meddai Rob Butcher, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.
“Rygbi yw calon ac enaid Cymru ac mae ein clybiau yng nghanol cymunedau drwy’r wlad, weithiau mewn llefydd anghysbell ond wastad mewn ardaloedd lle mae yna grwpiau o bobol, neu bobol yn ymgynnull.
“Pe bai un bywyd yn cael ei achub drwy’r cynllun yna byddai’n fonws mawr i ni, ond mae cael sicrwydd y bydd y peiriannau hyn sy’n achub bywydau ymhob clwb rygbi yng Nghymru yn ddigon.”
“Cysur mawr”
Bu Ken Owens, Alun Wyn Jones a Hallam Amos yn helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch y diffibrilwyr yn ystod yr wythnos.
“Rydyn ni’n gwybod y gall ataliad ar y galon ddigwydd unrhyw bryd, ac mae yna ddigon o esiamplau o bobol yn dioddef ar adegau a llefydd annisgwyl yn y byd chwaraeon,” meddai’r bachwr Ken Owens.
“Dw i’n siŵr y bydd clybiau ledled Cymru eisiau cymryd rhan. Rydyn ni’n gobeithio na fydd y peiriannau’n cael eu defnyddio, ond bydd yn gysur mawr i bawb yng Nghymru wybod eu bod nhw yno, mewn clwb wrth eich hymylau, os oes angen.”