Dydi’r system nawdd cymdeithasol ddim yn gweithio i rentwyr yng Nghymru, yn ôl Sefydliad Bevan.
Yn ôl ymchwil newydd gan y sefydliad, mae nifer o aelwydydd yng Nghymru’n cael trafferth dod o hyd i gartref a thalu rhent oherwydd nad yw’r Lwfans Tai Lleol yn ddigon uchel.
Y Lwfans Tai Lleol yw’r uchafswm y gall pobol sy’n rhentu tŷ gan landlordiaid preifat hawlio drwy Fudd-daliad Tai neu elfen dai Credyd Cynhwysol.
Pwrpas y Lwfans Tai Lleol yw rhoi digon o gefnogaeth i bobol fforddio’r 30% rhataf o dai mewn ardal, ac mae’n cael ei addasu’n ôl faint o lofftydd sydd eu hangen.
Mae ymchwil newydd gan Sefydliad Bevan mewn deg awdurdod lleol yng Nghymru’n dangos nad yw’n ddigon i bobol allu fforddio rhentu’r tai hynny.
Canfyddiadau
Dros haf 2021, roedd y Lwfans Tai Lleol yn ddigon i fforddio rhentu 4.8% o’r tai gafodd eu hysbysebu yn y deg awdurdod.
Ar gyfartaledd, roedd yna fwlch o £133.53 y mis rhwng graddfa Lwfans Tai Lleol a’r rhent gofynnol ar gyfer y 30% rhataf o lety a rennir.
Roedd bwlch o £308.71 y mis ar gyfer tai pedair llofft.
Mae’r broblem yn cael ei gwaethygu gan weithredoedd rhai landlordiaid, yn ôl Sefydliad Bevan.
Mae rhai’n gofyn am sawl geirda, yn gofyn am flaendal uchel, neu’n gofyn i ddarpar denantiaid gael incwm o hyn a hyn.
Yn ôl Sefydliad Bevan, mae’r gofynion hyn yn gweithio fel rhwystr i bobol sy’n derbyn help ar gyfer costau tai drwy Fudd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol.
Ar ôl ystyried yr holl rwystrau hyn, dim ond 2.7% o’r tai a gafodd eu hysbysebu ar y farchnad dros yr haf oedd ar gael i rentwyr ar incwm isel.
“System fwy agored a chadarn”
Mae pryderon y gall y sefyllfa waethygu gan fod cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol wedi cael eu rhewi ar lefelau 2020/21.
“Gyda chyn lleied o ddewis ar y farchnad mae aelwydydd ag incwm isel yn wynebu’r dewis o symud i lety y maen nhw’n cael trafferth ei fforddio, symud i dai o safon isel, neu fod mewn perygl o fod yn ddigartref,” meddai Hugh Kocan o Sefydliad Bevan.
“Mae’r pandemig wedi amlygu pa mor bwysig yw hi fod gan bawb fynediad at gartref cynnes a diogel.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n gweithredu i sefydlu system Lwfans Tai Lleol fwy agored a chadarn sy’n cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobol i gael mynediad at dai o safon dda yn eu cymunedau.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae’r Lwfansau Tai Lleol yn cael eu gosod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, fodd bynnag rydyn ni wedi buddsoddi’n sylweddol er mwyn darparu cymorth i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y bwlch cynyddol rhwng budd-daliadau’n ymwneud â thai a rhent real, gan gynnwys darparu £4.1 miliwn ychwanegol at gyllid Awdurdodau Lleol ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni’n defnyddio pob pŵer sydd ar gael i ni er mwyn cefnogi pobol Cymru trwy gydol y cyfnod anodd hwn.
“Rydyn ni’n parhau i liniaru effeithiau’r newidiadau mewn budd-daliadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac yn parhau i lobïo nhw i ailystyried penderfyniadau polisi sy’n taro’r rhai sydd angen cymorth fwyaf, galetaf.
“Yn y rhaglen Tlodi Plant – Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm, rydyn ni wedi cyflwyno ystod o brosiectau llwyddiannus gydag amcan syml – rhoi mwy o arian ym mhocedi pobol.
“Yn y misoedd nesaf, byddwn ni’n adeiladu ar hyn, gan gefnogi mwy o aelwydydd dros Gymru i wneud y gorau o’u hincwm.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog tenantiaid sy’n cael trafferth talu rhent i siarad â’u landlordiaid neu gysylltu â Chyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru.
Fel rhan o’u cymorth tuag at denantiaid, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Grant Caledi i Denantiaid gwerth £10 miliwn, sy’n cael ei rannu rhwng yr awdurdodau lleol.
Mae’r Grant Caledi ar gyfer tenantiaid sy’n dioddef caledi ariannol oherwydd pandemig Covid-19, a ddim wedi gallu talu eu rhent o ganlyniad i hynny.