Mae dynes â Syndrom Down wedi colli ei her yn yr Uchel Lys tros ddeddf sy’n caniatáu i fabis sydd â’r cyflwr gael eu herthylu hyd at enedigaeth.
Dadleuodd ei thîm cyfreithiol fod y rheolau yn “gwahaniaethu yn anghyfreithlon”.
Wrth i ddau uwch-farnwr wrthod yr achos yn gynharach heddiw (dydd Iau, Medi 23), dywedodd Heidi Crowter y byddai hi’n ceisio apelio yn erbyn y dyfarniad.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae’n rhaid cael erthyliad o fewn 24 wythnos, ond gellir caniatáu erthyliadau hyd at enedigaeth os oes “risg sylweddol y gallai’r plentyn ddioddef abnormalrwydd corfforol neu feddyliol fel ei fod yn ddifrifol dan anfantais pe bai’n cael ei eni”, sy’n cynnwys Syndrom Down.
Dywedodd y barnwr nad yw’r rhan honno yn y Ddeddf Erthyliad yn gyfreithlon, a’i fod yn ceisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng hawl plentyn heb ei eni a menywod.
Y frwydr “ddim drosodd”
Wrth ymateb ar Twitter, dywedodd Heidi Crowter “nad yw’r frwydr drosodd”.
“Efallai nad yw’r barnwyr yn credu ei fod yn gwahaniaethu yn fy erbyn, efallai nad yw’r llywodraeth yn credu ei fod yn gwahaniaethu yn fy erbyn, ond dw i’n dweud wrthoch chi fy mod i’n teimlo fy mod i’n cael fy ngwahaniaethu,” meddai
Dywedodd yr Arglwydd Farnwr Singh a’r Barnwr Lieven fod y “materion sydd wedi codi yn yr honiad hwn yn ofnadwy o sensitif ac weithiau’n ddadleuol”.
“Ni all y llys gymryd rhan yn y dadleuon hynny; rhaid iddo ddod i benderfyniad yn unol â’r gyfraith yn unig,” meddai’r ddau.
Roedd cyfreithwyr Heidi Crowter wedi dadlau bod y ddeddfwriaeth yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon gan nad oedd yn cyd-fynd â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Ond mewn gwrandawiad ym mis Gorffennaf, dywedodd y llywodraeth nad oedd tystiolaeth fod y gyfraith yn gwahaniaethu yn erbyn Syndrom Down.
Cyflwynodd Heidi Crowter yr her gyda phlentyn sydd â Syndrom Down, na ellir ei enwi, a Máire Lea-Wilson, 33, o Lundain sydd â mab sydd â’r cyflwr.
Dywedodd Máire Lea-Wilson fod ganddi ddau fab a’i bod hi’n teimlo bod y dyfarniad “yn y bôn yn dweud nad yw’r ddau fab yn cael eu gweld yn gyfartal yn llygaid y gyfraith”.
“Dylai cydraddoldeb fod i bawb waeth faint o gromosomau sydd ganddyn nhw,” meddai, gan ddweud y byddai’n apelio yn erbyn y dyfarniad hefyd.