Mae cwest wedi clywed bod dyn 81 oed wedi anfon llythyr at y Post Brenhinol yn cyfaddef ei fod wedi llofruddio ei wraig, ac yn nodi ei gynllun i roi diwedd ar ei fywyd.
Fe wnaeth David Arnold, o Sir Benfro, ladd ei wraig Christina, 71, drwy roi bag plastig dros ei phen a’i gadw mewn lle ag edefyn elastig.
Anfonodd y cyn-ddyluniwr y llythyr at y Post Brenhinol wedyn gyda “Ring 999” ar yr amlen.
Clywodd Llys Crwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin bod un o weithwyr y Post Brenhinol wedi dod o hyd i’r llythyr yn y swyddfa ddosbarthu yn Abertawe ar 16 Chwefror eleni, a galw’r heddlu.
Aeth yr heddlu i fwthyn rhent y cwpl yng Nghlunderwen, Sir Benfro a darganfod cyrff y ddau yn yr ystafell fyw.
Cafodd Mrs Arnold, a oedd yn cael ei hadnabod fel Tina, ei darganfod ar y soffa gyda bag plastig dros ei phen. Cafodd ei gŵr ei ddarganfod wedi crogi.
Y gwrandawiad
“Cafodd dau lythyr arall eu darganfod yn yr eiddo. Un oedd yn rhoi manylion am faterion personol, megis y cytundeb rhent a’u perthnasau agos,” meddai swyddog y crwner, Lisa Jenkins, wrth y llys.
“Roedd ail nodyn yn awgrymu bod Mr Arnold wedi lladd ei wraig a’i fod yn bwriadu lladd ei hun.”
Clywodd y gwrandawiad na wnaeth ymchwiliadau’r heddlu ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod unrhyw un arall ynghlwm â’r digwyddiad.
“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod David Arnold wedi llofruddio ei wraig ac yna lladd ei hun,” ychwanegodd Lisa Jenkins.
Priododd y ddau yn 1970, ac roedd ganddyn nhw bedwar o blant a chwech o wyrion ac wyresau. Roedd Mr Arnold wedi dioddef gyda gorbryder a straen, ac roedd gan ei wraig iselder.
“Roedd perthynas David a Christina gyda’u teulu yn un eithaf pell, a doedden nhw ddim mewn cyswllt cyson â’u plant,” meddai Lisa Jenkins.
“Doedd brawd David heb ei weld ers tua deng mlynedd, a’r ohebiaeth ddiwethaf rhwng y ddau oedd drwy gardiau Nadolig llynedd.
“Ni fu unrhyw ffraeo na drwgdeimlad -yn syml, doedd hi ddim yn berthynas agos. Roedden nhw’n gwybod bod David a Christina yn caru eu teulu, eu plant, a’u hwyrion ac wyresau.”
Casgliadau’r crwner
Dangosodd archwiliadau post-mortem nad oedd yna unrhyw arwyddion bod Mrs Arnold wedi dioddef anafiadau nag ymosodiad.
“Yr unig ganfyddiad arwyddocaol yw’r bag plastig wedi’i ddal o gwmpas y gwddf gydag edefyn,” meddai’r patholegydd, Dr Deryk James.
Dywedodd Paul Bennett, uwch-grwner dros dro Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, bod Mrs Arnold wedi cael ei lladd yn anghyfreithlon tra bod ei gŵr wedi lladd ei hun.
“Mae’n sefyllfa dorcalonnus bod bywydau cwpl priod wedi dod i ben dan yr amgylchiadau sydd wedi’u disgrifio,” meddai Paul Bennett.
“Cymerodd Mr Arnold gamau’r diwrnod hwnnw i roi diwedd ar fywyd ei wraig, am ba bynnag resymau na fyddwn ni fyth yn hollol sicr ohonyn nhw.
“Mae’r ffordd y digwyddodd hynny yn amlwg yn un boenus. Ni all yna fod lawer o sefyllfaoedd mor dorcalonnus a llwm.
“Bu farw Mrs Arnold o ganlyniad i gael ei mygu gan fag plastig a oedd wedi cael ei osod o amgylch ei phen, a dw i’n dod i’r casgliad ei bod hi wedi cael ei lladd yn anghyfreithlon.
“Ar gyfer Mr Arnold, mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir ei fod wedi cymryd camau gweithredol i roi diwedd ar ei fywyd. Dw i’n dod i’r canlyniad, yn ffurfiol, ei fod yn hunanladdiad.”
Ni wnaeth teulu’r cwpl fynychu’r gwrandawiad yn Neuadd y Sir, Hwlffordd.