Mae Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau dementia.
Mae Luke Fletcher, AoS dros Blaid Cymru, am weld Llywodraeth Cymru yn sefydlu uned data dementia i gynorthwyo’r rhai sy’n darparu gwasanaethau dementia yng Nghymru.
Nod ei gynnig arfaethedig yw gweld Llywodraeth Cymru yn ariannu ymchwil i ddatblygu offer diagnostig cywir i sicrhau bod pobl sy’n cael diagnosis o ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis.
“Pwrpas y cynnig, yn syml, yw gwella diagnosis dementia yng Nghymru,” meddai Luke Fletcher wrth Golwg360.
“Rydw i’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu arsyllfa Genedlaethol i Gymru i edrych ar sefyllfa Dementia yng Nghymru.
“Eisoes mae gan Sefydliad Iechyd y Byd arsyllfa er mwyn deall anghenion pobl sy’n byw gyda’r cyflwr.”
“Os nad oes data gyda ni, dy’n ni ddim gwybod ble mae’r problemau yn y system ofal dementia.”
Rhwng 2007 a 2015, bu cynnydd o 45% mewn pobl â diagnosis o ddementia yng Nghymru, gyda’r cyfanswm diweddaraf yn 22,686 gyda diagnosis wedi’i gadarnhau.
Mae’r amcangyfrifon yn nodi bod nifer y bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru tua 50,000.
Profiad Personol
Mae profiad personol yn gymhelliad i Luke Fletcher wedi i’w fam-gu, Sandra Lewis, dderbyn diagnosis o ddementia cyrff Lewy, sy’n fath cyffredin iawn o’r cyflwr ble mae’r effeithiau’n gwaethygu’n raddol dros nifer o flynyddoedd.
“Profid teuluol sy’n sbardun y tu ôl i fy nghynnig arfaethedig,” meddai Luke.
“Ar y pryd roedd yna ansicrwydd o’r cyflwr roedd ganddi, ac fe aeth rhai misoedd heibio wedyn heb wybod yn iawn beth oedd yn o’i le.
“Felly, am gyfnod doedd hi ddim yn derbyn y gofal oedd angen arni.”
“Fel pob math o ddementia, mae diagnosis cywir cyn gynted â phosibl yn allweddol i ofal ac ansawdd bywyd unigolyn.”
Effaith y Pandemig
Yn ôl Huw Owen Swyddog Polisi Cymdeithas Alzheimer mae’r pandemig wedi effeithio’n fawr ar wasanaethau gofal iechyd.
“Ers mis Mawrth 2020, amcangyfrifir bod 30,000 diagnosis ychwanegol wedi’u methu yn y Deyrnas Unedig, gan adael pobl yn methu â chael y cymorth sydd ei angen arnynt,” meddai.
“Rydym yn cefnogi’r alwad hon am ymchwil i offer diagnostig cywir a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.”
Yn ôl Luke Fletcher mae angen i Lywodraeth Cymru asesu effaith y pandemig ar y modd mae pobl yn derbyn diagnosis.
“Mae yna gwestiynau sylfaenol i’w gofyn am ba mor bell tu nôl ydyn ni gyda diagnosis.
“Mae cleifion dementia a gofalwyr wedi cael eu taro’n galed gan y pandemig coronafeirws ac mae’n rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
“Dydw i ddim yn y busnes ’ma o amddiffyn y Llywodraeth ond rydw i’n gwybod bod y gweinidog er tegwch yn edrych ar hyn.”
Gofal yn Gymraeg
Mae Luke Fletcher hefyd yn cydnabod fod angen sicrhau buddsoddiad pellach i ofal dementia yn Gymraeg.
“Mae yna drafferthion eisoes mewn darparu gofal yn Saesneg, ond mae gwaith sydd angen cael ei wneud yn y Gymraeg hefyd,” meddai.
“Mae gofal drwy eich mamiaith yn ganolog wrth drin pobl â dementia”
“Mae angen i aelodau eraill ddeall nad mesur i sgorio pwyntiau gwleidyddol yw hyn, mae’n rhywbeth trawsbleidiol sy’n effeithio ar bawb.
Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Dementia 2018-22 sy’n cynnwys ymrwymiad i wasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.