Mae cynghorydd a helpodd teulu o Affganistan i setlo yn y Deyrnas Unedig wedi sôn am y “rhyddhad” o allu eu cyfarfod wyneb yn wyneb.
Roedd Carolyn Webster, sy’n gynghorydd ym Mhenybont-ar-Ogwr, wedi trydar yn cefnogi cynllun i adsefydlu cyfieithwyr oedd yn gweithio i Fyddin Prydain.
Fe wnaeth nifer o bobol gysylltu â’r cynghorydd yn gofyn am help gyda’u ceisiadau Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid (ARAP), yn ogystal â chymorth i drefnu awyren i Brydain.
Cefnogi
Fe gwrddodd Carolyn Webster ag un o’r teuluoedd y gwnaeth hi eu helpu y penwythnos diwethaf.
Roedd y tad yn gweithio fel cyfieithydd i Fyddin Prydain am dair blynedd cyn iddo gael ei anafu gan ddyfais ffrwydrol.
“Roedd yn rhyddhad, mewn gwirionedd,” meddai Carolyn Webster.
“Rydych chi’n treulio cymaint o amser ar WhatsApp yn siarad gyda phobol, un ai yn y Deyrnas Unedig neu yn Affganistan, ond pan rydych chi’n cael cwrdd â nhw o’r diwedd, mae’n hyfryd oherwydd maen nhw’n rhannu cymaint o’u profiadau gyda chi.
“Mae’n bwysig bod pob un o’r ffoaduriaid yn gwybod bod pobol yn eu cefnogi.”
“Diolchgar iawn”
Roedd Sayed, tad y teulu sy’n dymuno cadw’u cyfenw yn anhysbys, wedi cael ei gynghori gan Lysgenhadaeth Prydain i fynd i Kabul gyda’i deulu.
Bu’n rhaid iddyn nhw guddio am ddyddiau oddi wrth y Taliban, cyn gallu cwrdd â milwyr o Brydain i gael lle ar awyren.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i Carolyn a’r rhai sydd wedi ein helpu ar bob cam, a byddan nhw bob amser yn ein calonnau,” meddai Sayed.
“Rydyn ni’n ddiogel ac yn hapus iawn nawr ac mae croeso cynnes i ni.”
“Dyletswydd foesol”
Gwelodd yr ymgyrch i achub dinasyddion Prydeinig a chynghreiriaid o Affganistan fwy na 15,000 o bobol yn cael eu cludo i ddiogelwch mewn ychydig dros bythefnos.
Roedd Carolyn Webster a grŵp o wirfoddolwyr yn pwysleisio’r angen i ailgartrefu cyfieithwyr y fyddin a’u teuluoedd yn benodol.
Dywedodd hi fod dim un adran o Lywodraeth Prydain wedi cyfathrebu â nhw ers mis Awst.
“Mae gennyn ni ddyletswydd foesol i gynorthwyo’r cyfieithwyr o Afghanistan sydd wedi cerdded yr un strydoedd â’n milwyr,” meddai.
“Fe wnaethon nhw achub bywydau ein milwyr. Roedden nhw’n tywys ac yn eu hamddiffyn.
“Nawr, maen nhw’n cael eu herlid, a dw i wedi cael tua 20 a mwy o bobl yn dod ataf fi heddiw yn dweud bod [y Taliban] yn chwilio yn eu tai, a bod eu teuluoedd yn cael eu hymosod arnyn nhw oherwydd eu gwaith gyda’n gwlad.”
Ymateb y Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae Carolyn Webster nawr yn galw ar y Swyddfa Dramor i gyfathrebu â nhw er mwyn cael y wybodaeth sydd angen arnyn nhw i roi cymorth i bobol sydd wedi cael eu gwrthod gan fenter ARAP (Afghan Relocations and Assistance Policy).
Dywedodd llefarydd ar ran Y Weinyddiaeth Amddiffyn: “Yn ystod ymgyrch Operation Pitting, roedden ni’n gweithio’n ddiflino i gael cymaint o bobl â phosibl allan o Afghanistan, gan gludo mwy na 15,000 o bobl o Kabul gan gynnwys miloedd o ymgeiswyr ARAP a’u dibynyddion.
“Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r rhai sydd wedi ein cefnogi ni, a dydy ein hymrwymiad i’r rhai sy’n gymwys i gael eu hadleoli ddim yn gyfyngedig o ran amser.
“Mae’r cynllun ARAP yn parhau i fod ar agor i geisiadau a byddwn yn parhau i gefnogi’r rhai sy’n gymwys.”