Mae cyfradd uwch o bobol dros gant oed yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn ôl ystadegau.
Dangosa data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 25 person dros gant oed i bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru.
Mae mwy o fenywod dros gant oed (40 i bob 100,000) a mwy o ddynion dros gant (9 i bob 100,000) yng Nghymru, nag yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
O gymharu, mae 23 person dros gant oed i bob 100,000 yn Lloegr, ac 18 i bob 100,000 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dros y Deyrnas Unedig, mae maint y boblogaeth oedrannus ar ei uchaf erioed.
Yn 2020, roedd 15,120 o bobol 100 oed neu hŷn yn y Deyrnas Unedig, cynnydd o 18% ers 2019.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae nifer y bobol 100 oed a throsodd yn y Deyrnas unedig wedi cynyddu 52% ers 2019.
Mae hynny, yn rhannol, yn sgil cynnydd o 45% yn nifer y genedigaethau ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, rhwng 1919 a 1920, ynghyd â gwelliannau mewn gofal iechyd ac ansawdd bywyd.
Y cynnydd yn arafu
Er hynny, yn 2020 arafodd y cynnydd ym maint y boblogaeth 90 oed a drosodd o gymharu â blynyddoedd blaenorol, gyda thwf o 0.7% ers 2019 o gymharu â 3.6% rhwng 2018 a 2019.
Gallai Covid-19 fod yn rheswm dros yr arafu, gan fod y data’n mynd hyd at 30 Mehefin 2020, ac yn cynnwys misoedd cyntaf y pandemig. Ym mis Ebrill 2020, pan oedd niferoedd marwolaethau Covid-19 ar eu huchaf, pobol 90 oed a hŷn oedd â’r cyfraddau marwolaeth uchaf.
“Tra bod y cynnydd yn y boblogaeth 90 oed a hŷn wedi arafu dros y flwyddyn hyd at ganol 2020, wedi’i effeithio gan y pandemig mae’n debyg, roedd yna gynnydd mawr yn nifer y bobol 100 oed a throsodd,” meddai Angele Storey, o Ganolfan Demograffeg a Heneiddio’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Yn hynny o beth, cynyddodd nifer y bobol 100 oed neu drosodd o bron i 1/5 ers y flwyddyn flaenorol.
“Cafodd hynny ei yrru gan bobol wedi’u geni yn ystod y twf mewn genedigaethau wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf yn troi’n 100 oed.
“Mae gwelliannau mewn safonau byw ac iechyd cyhoeddus dros y ganrif ddiwethaf wedi gwella’r siawns bod y rheiny a gafodd eu geni ar y pryd yn goroesi nes eu bod nhw’n gant oed.”