Mae cynghorwyr yn Sir Benfro wedi dweud bod angen gwneud penderfyniad yn fuan ar agor ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn y sir.

Mewn cyfarfod ddydd Iau (23 Medi), roedd y Cynghorydd Mike Evans yn pwysleisio bod galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y sir, gyda rhai o ysgolion cynradd Cymraeg, fel Caer Elen a Hafan y Môr, yn gorlenwi.

Wrth drafod drafft o strategaeth y Gymraeg y Cyngor, ychwanegodd bod angen ysgol uwchradd Gymraeg yn ardal Dinbych y Pysgod oherwydd bod yr ysgolion sydd yn Hwlffordd a Chrymych yn rhy bell.

Roedd yn honni bod angen ystyried hynny o ddifri cyn 2035 ar yr hwyraf.

Cynnydd mewn galw

Mae bwriad eisoes i agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhenfro, ac mae arolwg barn cyhoeddus ar addysg Gymraeg yn cael ei gynnal yn Aberdaugleddau.

Dywed y Cyngor bod mwy o alw am wasanaethau Cymraeg o fewn y Cyngor, o ran addysg ac yn gyffredinol.

Fe gytunodd y pwyllgor yn y cyfarfod i wthio ar y cabinet i fabwysiadu Strategaeth y Gymraeg 2021-26.

Fe wnaeth Cris Tomos, yr aelod cabinet dros y Gymraeg, ddweud mai eu “huchelgais” yw gweld 32% o boblogaeth y sir yn siarad yr iaith.