Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn buddsoddi bron i £25m ar gyfer pedwar sganiwr PET-CT newydd yng Nghymru.
Mae PET-CT yn cynhyrchu delweddau 3D manwl o’r tu mewn i’r corff.
Gall y delweddau ddangos yn glir y rhan o’r corff sy’n cael ei archwilio, gan gynnwys unrhyw fannau annormal, a gall amlygu pa mor dda mae rhai o swyddogaethau’r corff yn gweithio.
Mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud eu bod nhw wedi rhoi £240m yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd i gefnogi cynlluniau adfer ar ôl pandemig y coronafeirws a lleihau amseroedd aros.
Daw hyn wrth i’r Llywodraeth ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
‘Arloesol’
“Heddiw, fe wnaethon ni gyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi bron i £25m mewn hyd at bedwar sganiwr PET-CT newydd ar draws Cymru i wella mynediad i’r dechnoleg ddiagnostig arloesol hon,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth mewn datganiad.
“Bydd sganwyr Tomograffeg Allyriant Positron a Tomograffeg Gyfrifiadurol newydd, a fydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, Gogledd Cymru ac Abertawe, yn darparu capasiti ychwanegol y mae dirfawr ei angen i ateb y galw yn y degawd i ddod.
“Bydd hyn yn ei dro yn helpu i leihau amseroedd aros ac yn fwy cyfleus i gleifion.
“Rydym hefyd wedi rhoi £240m yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i adfer o bandemig Covid a lleihau amseroedd aros.
“Mae’r pwysau ar ein gwasanaethau brys yn parhau i fod yn uchel.
“Roedd nifer y derbyniadau i holl adrannau brys Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a nifer cyfartalog y derbyniadau i adrannau achosion brys y dydd ym mis Awst 2021 ychydig yn is na’r mis blaenorol, ond roeddent yn dal yn uwch na’r llynedd.
“Roedd mwy o alwadau ambiwlans brys ym mis Awst 2021 nag mewn unrhyw fis Awst arall ers i ddata tebyg gael ei gasglu gyntaf ym mis Hydref 2015.
“Cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol (galwadau coch) oedd yr ail uchaf hefyd ers i arferion ateb galwadau gael eu diweddaru ym mis Mai 2019.
“Rydym wedi sicrhau bod £25m o gyllid ar gael i wella’r modd y darperir gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng.
“Mae gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd gynllun cyflawni gweithredol gyda chamau i helpu i reoli’r galw am y gwasanaeth 999 yn y gymuned, cynyddu capasiti, gwella ymatebolrwydd, a gwella’r broses a ddefnyddir gan y criwiau ambiwlans i drosglwyddo claf.”