Mae trafodaethau i godi gwaharddiad ar allforio cig oen i’r Unol Daleithiau wedi hollti barn sawl un yn y diwydiant.

Roedd yr Unol Daleithiau wedi atal cig oen o’r Deyrnas Unedig rhag cael ei fewnforio yno yn y 1980au hwyr oherwydd rheolau yn ymwneud â chlefydau TSE, ond mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi awgrymu y gall hynny newid.

Fe groesawodd rhai yn y diwydiant yr adroddiadau diweddaraf, gan ddweud y bydd modd i gynhyrchwyr cig oen yng Nghymru elwa oddi ar y cytundeb.

Yn y tymor hir, gall codi’r gwaharddiad hybu sector ffermio defaid o hyd at £20m y flwyddyn, yn ôl amcangyfrif.

Yn ôl Wyn Evans, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru, maen nhw’n “sicr am weld y gwaharddiad hwn yn cael ei godi” fel bod modd i “fasnach ailddechrau cyn gynted â phosibl”.

Ond mae rhai’n pryderu ynglŷn â manylion y cytundeb, a’r sgil effeithiau posib ar safonau bwyd a’r amgylchedd yn enwedig.

Allforio’n arwain at fewnforio’n ôl?

Mae Dafydd Morris-Jones, sy’n ffermio defaid yn Ysbyty Cynfyn ger Ponterwyd, yn ansicr am rai elfennau o gael cytundeb newydd.

“Mae’n amlwg bod unrhyw farchnad dramor sy’n agor lan ar gyfer ein nwyddau ni, yn enwedig pan mae’r llywodraeth wedi sathru ar lawer o’n marchnadoedd ni yn y lle cynta’, yn rhywbeth fyddwn i’n reddfol yn ei groesawu,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r farchnad yn America, hyd yn oed y farchnad ymysg Cymru alltud yn unig, yn un sy’n gymharol lewyrchus.

“Fy mhryder mawr i yw bod unrhyw gytundeb i ni allforio atyn nhw yn mynd i arwain aton ni’n mewnforio’n ôl ganddyn nhw hefyd.

“Wrth ystyried y gwahaniaeth maint rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau, dw i’n dueddol o feddwl mai ni fydd ar golled.”

‘Torri corneli’

Byddai Dafydd Morris-Jones yn bryderus pe bai’r cytundeb yn cynnwys mewnforio cig o’r Unol Daleithiau oherwydd bod ganddyn nhw safonau bwyd gwahanol i Brydain, meddai.

Mae hefyd yn nodi bod hawliau gweithwyr y wlad yn llai ffafriol, yn enwedig wrth gyflogi gweithwyr tramor, a byddai angen i Brydain grybwyll hynny wrth drafod.

“I fi, mae hyn yn mynd at wraidd polisi amaethyddol a pholisi bwyd y Deyrnas Gyfunol,” meddai.

“Bydden ni’n mewnforio o systemau sydd â marc ansawdd llawer is na ni, ac sy’n medru defnyddio prosesau i gynhyrchu cig neu fwyd arall fyddai’n anghyfreithlon yn fan hyn.

“Fel ffarmwr, dw i’n edrych ar ôl fy anifeiliaid i ac yn gofalu am eu lles nhw ac, o ganlyniad, mae yna rai cynnyrch Prydeinig hyd yn oed fydda i ddim yn fodlon bwyta adref.

“Pan wyt ti’n edrych ar brosesau’r Unol Daleithiau, yn un peth dydy e ddim y math o fwyd fydden i eisiau bwydo fy mhlant i, ac yn economaidd, maen nhw’n gallu torri corneli fydden ni ddim yn cael eu torri.

“Os yw dy bolisi masnach ddim yn cynnwys yr un moesoldeb â dy bolisi amaeth cartref, rwyt ti’n mynd i wneud parc chwarae allan o gefn gwlad.”

Dros yr Iwerydd neu dros y Sianel?

Mae Dafydd Morris-Jones hefyd yn cwestiynu’r angen i gael bargen â gwlad sydd mor bell i ffwrdd, gan roi prisiau olew cynyddol a’r amgylchedd fel rhesymau.

“Dydw i ddim yn siŵr pa mor ddoeth yw allforio i ben draw’r byd,” meddai.

“Rydyn ni newydd droi cefn ar gwsmeriaid parod iawn jyst ar draws y Sianel.

“Mae’r gadwyn gymaint yn fyrrach pan ydyn ni’n allforio i Ffrainc, ac yn enwedig gan ein bod ni mor ddibynnol ar Ffrainc yn hanesyddol wrth brosesu cig coch ac allforion byw.

“Mae mynd ar daith o ganolbarth Cymru i gyrion Dunkerque yn llai o daith nag o ganolbarth Cymru i ogledd yr Alban.

“Yr addewid ar ôl Brexit oedd y bydden ni’n dal i fod â pherthynas agos â’n cymdogion ni ar y cyfandir.

“I fi, mae e fel ein bod ni’n trio cicio’r Ffrancwyr yn enwedig a throi’n ôl at wleidyddiaeth fel oes Napoleon.”