Mae Mark Isherwood, Cwnsler Cyffredinol Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn rhybuddio bod rhan helaeth o’r cyhoedd yn dal i fod yn ansicr ynghylch pwerau datganoledig.
Wrth herio Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Cyfansoddiad, mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r sefyllfa drwy addasu rhaglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Mae’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol hefyd i sicrhau bod gwelliannau i hygyrchedd cyfraith Cymru yn ymestyn i Aelodau o’r Senedd, gan dynnu sylw at y ffaith na fyddan nhw o reidrwydd yn gwybod fod is-ddeddfwriaeth yn mynd rhagddi oni bai bod Aelodau o’r Senedd hefyd yn aelodau o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd ddoe (dydd Mercher, Medi 22), dywedodd Mark Isherwood fod y pandemig “wedi taflu goleuni ar bwerau datganoledig, gyda llawer o bobol yng Nghymru yn dal i ddrysu ynghylch pa set o reoliadau Covid-19 oedd yn berthnasol iddynt”.
Dryswch o hyd
“Gyda llai na hanner yr etholwyr yn pleidleisio dros unrhyw un yn Etholiad Cyffredinol Cymru ym mis Mai, mae’n amlwg fod y diffyg democrataidd yng Nghymru dal i fod, gyda llawer yn dal i beidio â deall ble mae’r penderfyniadau’n cael eu gwneud, pwy sy’n gyfrifol a faint o bŵer sydd gan Lywodraeth Cymru dros eu bywydau,” meddai Mark Isherwood.
“Felly sut fydd hygyrchedd cyfraith Cymru yn cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o bwerau datganoledig a deddfwriaeth ddatganoledig fel y gallant gael gafael ar y wybodaeth gywir o’r lle iawn ar yr adeg gywir?
“Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth, nid yw Aelodau o’r Senedd yn gwybod ei fod yn digwydd y rhan fwyaf o’r amser, oherwydd eu bod yn cael eu gwneud drwy weithdrefn negyddol, yn hytrach na’r weithdrefn gadarnhaol ac felly’n dod i’r Cyfarfod Llawn.
“Er bod angen is-ddeddfwriaeth y weithdrefn negyddol i lenwi bylchau gweithdrefnol mewn deddfwriaeth sylfaenol, ni fydd Aelodau o’r Senedd o reidrwydd yn gwybod bod hyn yn digwydd oni bai eu bod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad.
“Y Senedd hon sy’n gwneud y gyfraith, a dyw gadael i’r Pwyllgor ddadlau yn ei gylch ar ôl i Lywodraeth Cymru ei gwneud drwy weithdrefn negyddol, ddim yn foddhaol.”