Mae Cyngor Ynys Môn wedi amddiffyn eu cynllun cinio ysgol newydd gwerth £8m.
Daw hyn ar ôl i rai cynghorwyr ac undebau ffermio gwestiynu’r bwriad i gael “dydd Llun di-gig,” yn ogystal â faint o’r cig ar y fwydlen sy’n dod o Gymru.
Ers dechrau’r flwyddyn ysgol, mae cwmni Chartwells wedi bod yn darparu prydau yn ysgolion cynradd ac uwchradd y sir.
Mae’r cytundeb pum mlynedd newydd yn golygu bod cinio ysgolion cynradd costio 30c yn llai bob dydd.
Ond mae un cynghorydd, sy’n wyneb cyfarwydd yng nghylchoedd amaeth yr ynys, eisiau i’r cytundeb fod yn destun craffu ar ôl codi cwestiynau am gynnyrch cig drwy gynnig bwydlen lysieuol yn unig ar ddyddiau Llun.
Mae’r awdurdod lleol yn honni bod amodau’r cytundeb yn sicrhau bod o leiaf 30% o’r cynnyrch wedi dod o’r ardal leol, a bod yr holl gig yn dod o’r Deyrnas Unedig neu o Gymru os yw hynny’n bosib.
Cig o Gymru
Mae’r Cynghorydd Peter Rogers, sydd â chefndir amaethyddol, wedi tynnu sylw at statws hanesyddol a phresennol y diwydiant amaeth o fewn economi’r ynys.
“Mae’r newyddion bod Chartwells wedi derbyn y cytundeb i ddosbarthu prydau bwyd i fwy na 9,500 o ddisgyblion ar yr ynys eisoes wedi codi pryderon ynghylch cyrchu eu cig,” meddai.
“Rwy’n deall bod amod bod cyrchu cig o Gymru yn flaenoriaeth, ond cafodd pryderon eu codi ynghylch lefelau cig Cymru sy’n cael ei gyrchu ac am hyrwyddo diwrnod heb gig.
“Rwyf bellach wedi gwneud cais i’r Panel Craffu archwilio cyrchu’r cig ac a yw holl amodau’r cytundeb yn cael eu bodloni.
“Mae’r arbedion ariannol i’r awdurdod yn dda iawn, ond mae angen eu hatgoffa bod angen iddyn nhw gymharu pethau ochr yn ochr, a dylen nhw hefyd fod yn ymwybodol mai dyma’r un cwmni a gafodd ffrae gyhoeddus gyda Marcus Rashford.”
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn ategu ei bod hi’n “hanfodol i blant gael diet amrywiol” sy’n adlewyrchu canllawiau maethol yr Eatwell Guide.
Ymateb
Mae Rhys Hughes, swyddog addysg Ynys Môn, yn dweud bod panel yn cynnwys athrawon, swyddogion cyngor ac ymgynghorydd arlwyo yn rhan o’r broses tendro.
“Rydyn ni’n deall pryderon ynghylch prydau bwyd heb gig, ond mae datblygiad y fwydlen a’r ryseitiau yn seiliedig ar fewnwelediadau cwsmeriaid, plant a rhieni mewn ysgolion ledled y wlad,” meddai.
“Mae hyn yn ymateb i’r alwad gan bobol iau i leihau allyriadau carbon ac effaith amgylcheddol y gadwyn fwyd, a hefyd i sicrhau ein bod ni’n dod o hyd i ffynonellau protein mwy o safon.
“Mae hyn yn arfer arferol ar draws y sector – roedd gan y darparwr blaenorol fwydlen gyda diwrnodau heb gig hefyd – ond dydyn ni fel Awdurdod ddim yn marchnata’r term ‘dydd Llun di-gig’.
“Rydyn ni’n deall pwysigrwydd cefnogi’r gymuned ffermio a dyna pam y bydd cig ar y fwydlen bedwar diwrnod yr wythnos, a bydd y prydau bwyd ar ddydd Llun yn dal i gynnwys cynhyrchion o’r gymuned ffermio, fel pizzas caws a thomato a chaws macaroni.”