Mae Heddlu Llundain yn credu bod yr athrawes Sabina Nessa wedi cael ei llofruddio ar ei ffordd i’r dafarn.
Cafwyd hyd i’w chorff yn ardal Greenwich nos Wener ddiwethaf (Medi 17).
Dywed yr heddlu fod y ddynes 28 oed wedi gadael ei chartref a cherdded trwy Cator Park tuag at dafarn The Depot yn Kidbrooke Village pan ddigwyddodd yr ymosodiad arni.
Cafwyd hyd i’w chorff ger canolfan gymunedol yn Kidbrooke Village ddydd Sadwrn (Medi 18).
Doedd archwiliad post-mortem ddim yn gallu rhoi eglurhad pellach, meddai’r heddlu, sy’n parhau i apelio am wybodaeth.
Trais yn erbyn menywod yn ‘epidemig’ cenedlaethol
Yn ôl Sadiq Khan, Maer Llundain, mae trais yn erbyn menywod bellach yn “epidemig” cenedlaethol.
“Rhwng Diwrnod Rhyngwladol y Menywod y llynedd a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, cafodd 180 o fenywod eu lladd dan law dynion ledled y wlad,” meddai.
“Mae gennym ni epidemig pan ddaw i drais yn erbyn menywod a merched.
“Dw i’n credu bod rhaid i ni ddynion fod yn gynghreiriaid wrth fynd i’r afael â’r mater hwn.”