Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Ofgem yn annog y rheoleiddiwr i gynnig sicrwydd y bydd cyflenwad parhaus o nwy i bobol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng ynni.
Wrth gael ei holi gan Aelodau o’r Senedd ddoe (dydd Mercher, Medi 22), dywedodd Julie James, yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd, ei bod hi wedi cwrdd â phrif weithredwr Ofgem ddydd Mawrth (Medi 21) i drafod effaith y cynnydd mewn prisiau nwy ar fusnesau a thrigolion Cymru.
“Rydym yn gwybod y bydd rhai cwmnïau ynni yn ceisio gwthio’r prisiau i fyny i’r cap, a bydd eraill yn anffodus yn mynd allan o fusnes, felly roeddem yn bryderus iawn a oedd unrhyw un o’r rheini’n fusnesau yng Nghymru ac a oedd unrhyw beth y gallem ei wneud i’w helpu,” meddai.
“Rwyf wedi ysgrifennu at Ofgem yn dilyn y cyfarfod, gan ofyn am sicrwydd ysgrifenedig ganddynt o barhad y cyflenwad i ddefnyddwyr Cymru ac y bydd hawliau defnyddwyr yn cael eu diogelu.
“Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig gan ddweud bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu ar frys i reoli sefydlogrwydd y farchnad a chostau defnyddwyr.”
‘Pryderus iawn’
Wrth ofyn beth oedd y Llywodraeth yn ei wneud i helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan y codiadau mewn prisiau, dywedodd Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ei bod yn “bryderus iawn” fod y gweinidog wedi “teimlo’r angen” i geisio sicrwydd gan Ofgem.
“Bydd angen i Lywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig wynebu cwestiynau difrifol iawn am sut y gwnaethant ganiatáu i hyn ddigwydd,” meddai.
“Mae’n annerbyniol eu bod wedi galluogi sefyllfa lle mae amheuaeth am gyflenwad ynni.
“Maen nhw wedi gwneud y Deyrnas Unedig yn ddibynnol iawn ar nwy drwy fethu â throsglwyddo i ffynonellau adnewyddadwy, yna wedi methu â sicrhau digon o gronfeydd nwy.
“Ond y flaenoriaeth nawr yw dod o hyd i ffyrdd o ateb y galw yn y tymor byr, a byddwn yn disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod hyn yn digwydd.”