Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio yn dilyn tân mewn eiddo yng Nghwm Rhondda ddydd Mawrth (Medi 21).
Cafodd dynes 28 oed anafiadau difrifol yn y tân mewn tŷ yn ardal Ystrad Rhondda am oddeutu 4.45yp.
Mae hi’n dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, a chafodd tri o blant driniaeth am effeithiau’r mwg.
Mae’r dyn sydd wedi’i arestio’n cael ei holi yn y ddalfa wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad, ac maen nhw’n “cadw meddwl agored” am y digwyddiad.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.