Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am ddatgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru o ganlyniad i’r galw cynyddol ac amseroedd aros cynyddol.
Defnyddiodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl yn y Senedd i fynnu cynllun gan y Llywodraeth i fynd i’r afael ag amseroedd ymateb ac i ddelio ag effaith pwysau cynyddol ar ofal sylfaenol a chymdeithasol.
Mae cais gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru am gymorth milwrol eisoes wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a’i anfon at y Weinyddiaeth Amddiffyn i’w gymeradwyo.
Dyma’r trydydd tro i’r gwasanaeth ofyn am gymorth milwrol, yn ôl Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Dywedodd Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn argyfwng a’i fod wedi bod ers sawl mis.
“Mae angen gweithredu ar unwaith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwasanaeth ambiwlans a hefyd i sicrhau bod pobol Cymru yn cael y gwasanaeth ambiwlans y maen nhw’n ei haeddu a’i angen,” meddai.
“Allwch chi ddim datrys problem oni bai eich bod yn derbyn bod problem.
“Mae’r gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng.”
Dywedodd Mike Hedges, Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Abertawe, fod ciwiau o ambiwlansys y tu allan i ysbytai wedi’u hachosi gan dagfeydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.
“Mae gormod o bobol yn mynd i adran damweiniau ac achosion brys pan nad yw eu hangen meddygol yn ddamwain nac yn argyfwng,” meddai.
“Pam maen nhw’n gwneud hyn?
“Oherwydd dyma’r unig le y gallwch warantu gweld meddyg.”
‘Storm berffaith’
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, nad yw’r problemau’n newydd a’i fod yn “storm berffaith” o amseroedd aros ambiwlansys a galw cynyddol.
Wrth ymateb, dywedodd Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gweld cynnydd o 20% i 30% mewn galwadau eleni ac nad oedd hi’n “cuddio nac yn osgoi” y mater.
“Rwy’n credu ei bod yn werth tanlinellu’r ffaith nad ydym erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn o’r blaen,” meddai.
“Roedd Covid-19 yn wael, roedd pawb yn deall Covid-19, ond mae pawb yn y gwasanaeth ar hyn o bryd yn dweud wrthyf fod y pwysau hwn ar hyn o bryd yn waeth nag unrhyw beth rydyn ni wedi’i weld hyd yma.
“Felly, mae angen i ni ddeall y pwysau sydd ar y system ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhywbeth lle gallwch chi bwyso swits a disgwyl i bethau newid.”
Fodd bynnag, dydy hi ddim am ddatgan argyfwng yn y Gwasanaeth Ambiwlans.
“Nid wyf yn credu y byddai’n briodol i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, ond wrth gwrs, rydym yn derbyn bod problem yma sydd angen ei datrys,” meddai.