Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal ers cof am athrawes ysgol gynradd a gafodd ei llofruddio mewn parc yn Llundain.
Roedd aelod o’r cyhoedd wedi dod o hyd i gorff Sabina Nessa ym Mharc Cator Park yn Kidbrooke yn ne ddwyrain Llundain ddydd Sadwrn.
Roedd Sabina Nessa, 28, wedi bod yn cerdded i gwrdd a ffrind mewn tafarn wrth ymyl ei chartref nos Wener ddiwethaf, taith a ddylai fod wedi cymryd tua phum munud, pan gafodd ei lladd.
Daw ei marwolaeth yn dilyn protestiadau dros lofruddiaeth Sarah Everard, 33, a gafodd ei chipio a’i lladd wrth iddi gerdded adref ar ei phen ei hun yn ne Llundain ym mis Mawrth.
Mae’r grŵp ymgyrchu, Reclaim the Streets, sy’n gysylltiedig â’r wylnos ar gyfer Sabina Nessa, wedi dweud eu bod yn “grac a thorcalonnus” ar ôl clywed am ei llofruddiaeth.
Dywed yr Heddlu Metropolitan bod dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Sabina Nessa. Cafodd ei arestio mewn eiddo yn Lewisham ddoe (23 Medi) ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Cafodd dyn yn ei 40au ei arestio ddydd Sadwrn ar amheuaeth o lofruddio a’i ryddhau yn ddiweddarach tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.
Mae’r heddlu hefyd wedi rhyddhau lluniau CCTV o ddyn arall maen nhw’n awyddus i’w holi.