Mae Plaid Cymru a’r Blaid Werdd wedi cyhoeddi eu bod nhw am ffurfio cynghrair etholiadol newydd yng Nghaerdydd ar gyfer etholiadau’r cyngor ym mis Mai’r flwyddyn nesaf.

Bydd y gynghrair “yn cydweithio tuag at yr etholiad fel plaid unedig ar draws wardiau’r ddinas,” meddai datganiad ar y cyd.

Mae’r fenter wedi deillio o bryderon cyffredin ymhlith aelodau’r pleidiau ac ymgyrchwyr yn y brifddinas, ac maent yn galw am ddull mwy blaengar a chynhwysol o wneud penderfyniadau lleol.

Bydd amddiffyn a gwella mannau gwyrdd cyhoeddus, tai tecach, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a rhoi pŵer democrataidd go iawn i gymunedau yn rhan o’u maniffesto ar y cyd.

Mae’r gynghrair yn cynnwys gweithredwyr llawr gwlad annibynnol o’r tu allan i Blaid Cymru a’r Blaid Werdd, sy’n rhannu tir cyffredin gyda’r pleidiau ar faterion ymgyrchu hanfodol yn y ddinas, hefyd.

Ar hyn o bryd, mae gwaith ar y gweill i sefydlu rhestri ar y cyd o ymgeiswyr ledled y ddinas.

“Gwleidyddiaeth gydweithredol”

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru, fod yr “heriau sy’n wynebu ein prifddinas yn rhai brys ac yn gofyn am ffyrdd newydd o feddwl”.

“Mae cydweithio ag eraill i ddod â’r gynghrair gyffrous hon at ei gilydd cyn etholiadau Cyngor Caerdydd y flwyddyn nesaf wedi bod yn ysbrydoledig,” meddai Anthony Slaughter.

“Ar adeg o Argyfwng Hinsawdd ac Amgylcheddol ac anghydraddoldeb cynyddol, mae gwleidyddiaeth ‘Busnes fel Arfer’ yn siomi ein cymunedau ar bob lefel o lywodraeth.

“Nid yw geiriau cynnes ac uchelgeisiau amwys gan gynrychiolwyr etholedig yn ddigon bellach gan fod Caerdydd yn dioddef o golli mwy a mwy o fannau gwyrdd cyhoeddus gwerthfawr, gor-ddatblygu amhriodol a phenderfyniadau chynllunio sydd yn aml yn mynd yn erbyn anghenion y cymunedau yr effeithir arnynt.

“Mae Plaid Werdd Cymru o’r farn y dylai pŵer a phenderfyniadau gael eu datganoli bob amser i’r lefel leol fwyaf priodol, a chredwn y bydd y gynghrair hon ar feysydd tir cyffredin yn rhoi cyfle i bleidleiswyr Caerdydd bleidleisio dros newid gwirioneddol a chynrychiolaeth gymunedol wirioneddol.

“Mae’r heriau sy’n wynebu ein prifddinas yn rhai brys ac mae angen ffyrdd newydd o feddwl. Y wleidyddiaeth gydweithredol ‘aeddfed’ hyn yw’r newid sydd ei angen.”

“Llais gwleidyddol newydd” 

Dywedodd Rhys ab Owen, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru ac un fu’n rhan o’r trafodaethau i ffurfio’r gynghrair, mai’r dewis etholiadol newydd hwn yw’r “newid sydd ei angen ar Gaerdydd”.

“Mae Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn falch o fod yn rhan o’r cyhoeddiad hwn am gynghrair wleidyddol newydd yn ein prifddinas,” meddai Rhys ab Owen, sy’n Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru.

“Y dewis etholiadol newydd hwn yw’r newid sydd ei angen ar Gaerdydd, gan gynnig llais gwleidyddol newydd i gymunedau drwy sefyll o dan un enw ar y cyd ar y papur pleidleisio.

“Mae hyn yn ymwneud â chydnabod tir cyffredin rhwng ein pleidiau a’n hymgyrchwyr, a chydweithio i wneud gwleidyddiaeth mewn ffordd newydd a mwy cydweithredol, gan gydnabod yr angen am rym gwleidyddol newydd a fydd yn diogelu ac yn meithrin popeth sy’n dda am Gaerdydd, ac a fydd yn ateb her yr argyfwng hinsawdd a’r gor-ddatblygiad di-hid a di-wyneb a welwn mewn rhannau o’r ddinas.

“Rydym wrthi’n estyn allan at y rhai o’r tu allan i wleidyddiaeth a allai rannu ein gwerthoedd ac sy’n gallu gwneud gwahaniaeth.”

Bydd rhagor o wybodaeth am y gynghrair etholiadol newydd yn cael ei chyhoeddi mewn lansiad ymgyrch llawn yn ddiweddarach eleni, ynghyd â chyhoeddi ymgeiswyr.

Cyngor Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei redeg gan Lafur ers 2012, ac yn cael ei arwain gan y Cynghorydd Huw Thomas ers 2017.

Dyw’r Gwyrddion heb feddu ar sedd ar Gyngor Caerdydd o’r blaen, ond cafodd y blaid bron i 4,000 o bleidleisiau yn yr etholiad diwethaf yn 2017, a dros 6,000 o bleidleisiau yn 2012.

Cafodd tri chynghorydd Plaid Cymru eu hethol i’r cyngor yn 2017, er eu bod wedi gadael y Blaid ers hynny a bellach ym mhlaid Propel, sef plaid newydd Neil McEvoy.