Bydd arweinydd Cyngor Conwy yn cael ei holi ynghylch penderfyniad i ddefnyddio £540,000 i lenwi bwlch ariannu prosiect adeiladu mewn ysgol.

Mae Cheryl Carlisle, cynghorydd Hen Golwyn, wedi cyflwyno cwestiwn i Charlie McCoubrey ynghylch y broses o wneud penderfyniad cyn i’r taliad gael ei gytuno ar gyfer y prosiect yn Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn.

“Allwch chi egluro, os gwelwch yn dda, pa brosesau cymeradwyo craffu, democrataidd a chyfansoddiadol gafodd eu rhoi ac y cydymffurfiwyd â nhw er mwyn cyrraedd y penderfyniad i ddileu £540,823.45 o gyllid Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw a’i ddefnyddio i lenwi’r bwlch ariannu er mwyn comisiynu ac adeiladu Uned Drochi Gymraeg newydd yn Ysgol y Creuddyn?” gofynnodd y Cynghorydd Cheryl Carlisle mewn agenda cyn Pwyllgor Craffu Cyllid ac Anoddau yr wythnos nesaf.

“Sut ymgynghorwyd a hysbysbwyd prifathrawon, ysgolion, llywodraethwyr ac aelodau?

“Pa lywodraethiant oedd yno o amgylch cymeradwyaeth y Cabinet a hawl gwario dros £500,000 ac a ddylai hynny fod wedi dod i’r Cyngor i’w gymeradwyo?”

Fel arfer, mae’n rhaid i’r Cabinet ymgynghori â’r Cyngor llawn cyn gwario dros £500,000.

Fe wnaeth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol ofyn i’r Cynghorydd Cheryl Carlisle am sylw cyn y cyfarfod, ond dywedodd nad oedd modd iddi fynd i fanylder cyn y cyfarfod.

Fe wnaeth y Cyngor dorri cyllidebau’r holl ysgolion gan 5% yn y gyllideb ddiwethaf, er gwaethaf ymateb chwyrn prifathrawon.

Bydd y mater yn destun dadl yng nghyfarfodydd nesa’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn Bodlondeb ddydd Llun (Mai 13).