Cafodd ple i beidio uno dwy ysgol gynradd yn y Drenewydd eu diystyru wrth i uwch-gynghorwyr Powys benderfynu bwrw ymlaen â’r cynllun dadleuol.

Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Powys heddiw (dydd Mawrth, Mai 7), aeth adroddiad gerbron y Cabinet Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol, gan ddechrau ar y broses gyfreithiol o uno Ysgol Gynradd Treowen ac Ysgol Gynradd Calon y Dderwen yn y Drenewydd.

Fe wnaeth swyddogion addysg argymell cau Ysgol Treowen o Awst 31, 2025 ac “ehangu” Ysgol Calon y Dderwen i gynnwys Treowen o Fedi 1, 2025.

Byddai ail gam y broses yn gweld ysgol fwy o faint yn cael ei chodi ar safle Calon y Dderwen yn ystod 2026-27.

Byddai hyn yn ddibynnol ar dderbyn y cyllid angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru.

Ymgynghoriad ac adroddiad

Roedd y cynnig yn destun ymgynghoriad o Ionawr 15 i Chwefror 26.

Dydy’r adroddiad ddim yn nodi union nifer y gwrthwynebiadau i’r cynnig, ond mae’n dangos cryn bryderon a beirniadaeth o’r cynnig ac ychydig iawn o sylwadau cefnogol.

Yn y cyfarfod, siaradodd Joy Jones, pencampwr gwrth-tlodi’r Cyngor a chynghorydd Dwyrain y Drenewydd, yn erbyn y cynnig.

“Mae’r cynnig hwn yn mynd yn llwyr yn erbyn yr hyn mae’r gymuned ei eisiau ac sydd ei angen arni; yr ysgol yw canolbwynt y gymuned,” meddai.

“Mae wedi rhoi addysg o safon sydd wedi arwain at nifer o bobol ifanc yn cael dechrau gwych mewn bywyd.

“Os gwelwch yn dda, wnewch chi ystyried y canlyniadau gan y bydd yn cael effaith ddinistriol ar ystâd Treowen, rhieni a disgyblion, a’r gymuned.

“Mae pawb yn rhwystredig dros ben gan eu bod nhw’n teimlo bod yr ymgynghoriad yn wastraff amser.

“Galla i ddweud yn onest, ac eithrio swyddogion [y Cyngor] a’r deilydd portffolio, dw i heb glywed gan unrhyw un yn y gymuned sy’n cefnogi’r cynnig hwn.

“Dangoswch i’r cyhoedd eich bod chi wir yn gwrando ac yn poeni am eu hanghenion.”

Tynnodd hi sylw at y ffaith fod caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer “nifer fawr o dai ychwanegol” ger Treowen.

“Pe bai’r rhain yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol, bydd mwy o angen nag erioed ar gyfer yr ysgol,” meddai.

Tynnu ar brofiadau Ystradgynlais

Mae Sandra Davies, y Cynghorydd Llafur ac Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Genedlaethau’r Dyfodol, wedi gweld drosti ei hun sut mae ysgolion ardal Ystradgynlais wedi cael eu trawsnewid.

Roedd hyn yn golygu cau nifer o ysgolion bach a sefydlu ysgolion cynradd mawr.

Mae hi wedi gwahodd y Cynghorydd Joy Jones i ymweld ag Ystradgynlais ac i siarad â rhieni’r plant sydd yn yr ysgolion hyn.

“Mae’n drawmatig ac yn cael effaith ar bawb yng nghymuned yr ysgol – ond wedi bod drwy’r broses honno yn nalgylch Ystradgynlais, gallaf eich sicrhau chi ei bod yn cael canlyniadau da.

“Mae’r holl ddisgyblion a staff yn ffynnu, ac mae’r rhieni’n hapus.”

Niferoedd Treowen yn gostwng

Fe wnaeth y Cynghorydd Richard Church, y Democrat Rhyddfrydol ac Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Bowys Fwy Diogel, “dynnu sylw” at y ffaith fod niferoedd Ysgol Gynradd Treowen yn gostwng.

Yn ôl amcangyfrifon, bydd gan yr ysgol 87 o ddisgyblion erbyn Ionawr 2027, gan ostwng o’r 108 presennol.

Fis Ionawr 2016, roedd gan yr ysgol 132 o ddisgyblion.

“Mae hyn yn dangos y newid demograffig enfawr sy’n digwydd ym Mhowys,” meddai’r Cynghorydd Richard Church.

“Rydym yn dueddol o gysylltu niferoedd ysgolion yn gostwng ag ardaloedd gwledig, ond mae’n digwydd yn ein trefi yn ogystal, a gallwch weld hynny’n glir iawn yn y ffigurau hyn.

“Mae’r ffigurau’n dangos Treowen yn gostwng o ran maint gan bron i 50%.

“Mae’n rhaid i ni ailfodelu ein hysgolion er mwyn adlewyrchu’r newid demograffig enfawr hwn sy’n digwydd yn ein sir.”

Aeth y Cabinet yn eu blaenau i gytuno’n unfrydol i ddechrau’r broses gyfreithiol o uno’r ysgolion.