Bydd Ynys Môn yn croesawu pobol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i’r Fforwm Ynysoedd yn Llangefni ym Môn yr wythnos hon.

Ynys Môn sydd â’r unig gymuned o bobol yn byw ar ynys yng Nghymru, ac fe fu Môn yn rhan o’r fforwm ers ei sefydlu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2022.

Bydd ynysoedd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr hefyd yn cymryd rhan yn yr ymweliad dau ddiwrnod (Mai 7 a 8), a bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Michael Gove, yr Ysgrifennydd Ffyniant Bro yn San Steffan.

Mae’r fforwm yn ffordd o ddarparu cyswllt rheolaidd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, llywodraethau datganoledig gwledydd Prydain, a chymunedau ynysoedd, i sicrhau bod eu hanghenion a’u heriau cyffredin yn cael eu hadlewyrchu ym mholisïau’r Deyrnas Unedig, mewn penderfyniadau ac wrth ddosbarthu cyllid.

Canolbwyntio ar dai

Bydd rhaglen y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar dai, gan gynnwys pynciau megis mynd i’r afael â phrinder tai a dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

“Mae Ynys Môn, sef yr unig gynrychiolydd o Gymru ar y Fforwm Ynysoedd, yn edrych ymlaen at gynnal y cynulliad unigryw hwn o gynrychiolwyr ynysoedd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.

“Mae’n addas iawn bod y pedwerydd cyfarfod, sy’n cael ei gynnal yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni, yn canolbwyntio ar faterion tai sy’n effeithio arnom ni fel cymunedau ynysoedd.

“Wrth gwrs, mae Ynys Môn yn wynebu argyfwng tai ar hyn o bryd, ac mae digartrefedd wedi cynyddu’n gyflym yn ddiweddar, ac nid yw nifer o drigolion yn gallu fforddio cartref ar yr ynys.

“Rydym yn gobeithio y bydd cydweithio gydag ynysoedd eraill a gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fantais i bawb fydd yn bresennol.

“Rydw i’n edrych ymlaen at ddysgu gan gyd-aelodau’r Fforwm a rhannu ein harferion da ein hunain wrth i ni ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd yn ein cymunedau.

“Rydym yn cyflawni hyn trwy adeiladu tai Cyngor newydd, prynu hen dai cyngor, adnewyddu tai gwag tymor hir a defnyddio premiwm y Dreth Gyngor.”

‘Cyfle i glywed gan ynysoedd’

Mae’r Fforwm Ynysoedd yn helpu i greu ffyniant mewn cymunedau ynysoedd, trwy eu hannog i gydweithio ar heriau cyffredin megis sgiliau, cysylltedd ac isadeiledd, yn ogystal ag edrych ar gyfleoedd cyffredin, megis pontio i sero net.

Mae’n gyfle hefyd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig glywed a dysgu gan gymunedau ynysoedd er mwyn llywio polisïau yn y dyfodol.

“Mae ynysoedd yn rhannau unigryw a hanfodol o’r Deyrnas Unedig ac mae eu cyfraniad i’n gwlad yn enfawr,” meddai Michael Gove.

“Mae’r Fforwm Ynysoedd yn caniatáu i gymunedau ynysoedd ddod at ei gilydd a gweithio gyda’r llywodraeth i fynd i’r afael â heriau a chyfleoedd allweddol.

“Yn dilyn llwyddiant fforymau blaenorol yn Orkney, Ynys Manaw ac Ynys Lewis, rydw i’n falch iawn o ddod â’r fforwm i Gymru, i Ynys Môn, am y tro cyntaf.

“Mae hwn yn gyfle i glywed gan ynysoedd am yr heriau tai unigryw sy’n eu hwynebu, a dysgu mwy am sut maen nhw’n mynd i’r afael â’r heriau hyn mewn ffordd arloesol a deinamig.”

Bydd y Fforwm Ynysoedd hefyd yn cynnwys ymweliad â Pharc Gwyddoniaeth Menai, yng Ngaerwen, lle bydd yr aelodau’n trafod materion tai, yn ogystal â sgiliau ar gyfer pobol ifanc, yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymreig; Ynys Ynni Môn a gwireddu Sero Net.