Mae rhai cwmnïau bws wedi gorfod cael gwared ar rai o’u gwasanaethau yn sgil prinder staff.
Yn ôl un cwmni, mae yna “brinder staff cronig” ar draws y busnes ond mae’r problemau’n waeth ymysg gweithwyr lleol, gyda diffyg staff newydd yn ymgeisio am swyddi i gymryd lle gweithwyr sydd wedi gadael.
Cyn y pandemig, byddai hyd at 40 o bobol yn gwneud ceisiadau am swyddi gyrru bysus, gyda chynnig hyfforddiant am ddim, meddai cwmni Llew Jones, ond does neb yn gwneud ceisiadau nawr.
Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y diffyg llif staff, meddai Joe Guy, Pennaeth Adnoddau a Gweithrediadau’r cwmni wrth golwg360, gyda phobol wedi cael blas ar waith mwy hyblyg yn ystod y cyfnodau clo, pobol yn gadael i weithio ar lorïau, ac amseroedd aros hir ar gyfer cymryd profion gyrru bws.
O ganlyniad i brinder staff, mae Llew Jones wedi gorfod cael gwared ar un o deithiau eu gwasanaeth.
Nid Llew Jones yw’r unig gwmni i orfod cwtogi eu gwasanaethau, gyda Lloyds Coaches ym Machynlleth wedi gorfod gwneud y penderfyniad i gael gwared ar ambell siwrne’r T2 rhwng Bangor ac Aberystwyth, yr X28 rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, a’r T3 rhwng Wrecsam a Bermo.
Prinder staff sy’n gyfrifol am y newidiadau dros dro i wasanaethau Lloyds Coaches hefyd, a bydd yr amserlen yn cael ei hadolygu bob pythefnos, meddai’r cwmni.
‘Prinder cronig’
“Mae gennym ni brinder cronig o staff ar draws y cwmni, yn enwedig staff lleol,” meddai Joe Guy o gwmni Llew Jones yn Llanrwst.
“I roi rhif arno, fyswn i’n dweud bod ein lefelau staff lawr 20% o gymharu â lefelau cyn Covid.
“Y drafferth yw nad oes unrhyw fath o lif staff i gymryd lle staff sydd wedi gadael.
“Cyn hyn, fyddai staff wastad yn gadael ond fel arfer, byddai yna lif cyson o staff yn dod yn ôl mewn drwy’r drws; yn amlwg, pobol yn cael eu leisans, pobol yn dod o gwmnïau eraill…
“Ond yn anffodus, nid dyna’r achos ar y funud… pobol yn gadael y diwydiant i fynd at waith loriau, pobol yn mynd i yrru i Amazon, Tesco, faniau danfon bach lle mae dipyn mwy o hyblygrwydd.
“Beth rydyn ni wedi’i weld yw mai’r rheswm dros hynny yw bod pobol yn ystod coronafeirws wedi cael ychydig o flas ar fod adre’ bob nos, yn gweithio oriau hyblyg iawn, a nawr bod pethau wedi dychwelyd at ryw fath o normalrwydd, dydi pobol ddim isio dychwelyd at eu diwydiannau blaenorol.”
‘Bob math o ffactorau’
Esbonia Joe Guy fod angen leisans PCV i yrru bws neu coach, “a bod y rhwystrau i gael mynediad at hynny’n uchel”.
“Mae’r leisans yn ddrud, mae’n cymryd peth amser i gael un, ar y funud mae yna backlog ar gymryd y prawf bws neu coach. Mae yna backlog o o leiaf chwe wythnos i gael slot prawf theori neu brawf gyrru,” meddai.
“Mae hi’n anodd achos dydi’r cyflogau ddim yn arbennig, rydyn ni wedi gorfod cynyddu cyflogau ond allen ni ddim mynd â nhw’n uwch neu, fel arall, ni fydd y cwmni’n gweithio’n economaidd a bydd yn anymarferol.
“Mae yna bob math o ffactorau sy’n cyfrannu at hyn.
“Mae yna bobol yn dechrau dod trwodd, rydyn ni wedi cael pedwar ymgeisydd mewnol rydyn ni wedi’u hyfforddi. Mae tri wedi cael eu leisans, a bydd gan un ohonyn nhw leisans erbyn diwedd yr wythnos, gobeithio.
“Fodd bynnag, cyn coronafeirws, pe basen ni’n rhoi hysbyseb am swydd ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar dudalennau swyddi lleol, gan gynnig hyfforddiant am ddim i rywun gael eu trwydded, bydden ni’n derbyn 30, efallai 40 cais.
“Ar y funud, dydyn ni ddim yn cael dim. Mae’n anhygoel â dweud y gwir, mewn ffordd hurt.”
‘Dim capasiti’
Dim ond un o wasanaethau Llew Jones sydd wedi gorfod stopio ar hyn o bryd, sef taith olaf y bws 19 o Landudno i Fetws y Coed.
Bydd y newid yn dod i rym ar Hydref 3, gyda’r penderfyniad wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth 19 yn ymarferol fel arall.
“Yn y gorffennol, roedd gennym ni lot o hyblygrwydd a chynlluniau wrth gefn ar gyfer dyletswyddau ychwanegol fel bysus yn lle’r gwasanaeth trên,” meddai Joe Guy wedyn.
“Byddai Trafnidiaeth Cymru yn ein ffonio, fel un o’r cyflenwyr allweddol yn yr ardal, a byddem ni weithiau’n cyflenwi tair, pedair, hyd yn oed pum bws y diwrnod i Drafnidiaeth Cymru heb rybudd.
“Ar y funud, does gennym ni ddim capasiti i wneud hynny rŵan.”