Bydd Syr Keir Starmer yn defnyddio ei araith i gynhadledd y Blaid Lafur i gyflwyno’i hun fel rhywun all herio Boris Johnson ac ymbellhau o gyfnod Jeremy Corbyn wrth y llyw.
Yn araith wleidyddol bwysicaf ei yrfa, bydd Syr Keir yn honni “bod Llafur yn ôl mewn busnes”, yn gallu mynd i’r afael â’r materion mawr sy’n wynebu’r wlad, gan gynnwys gwella o’r pandemig a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd cynghreiriaid arweinydd y Blaid Lafur y bydd yr araith yn dangos sut mae’r blaid wedi newid ers i Jeremy Corbyn ei harwain a cholli etholiad yn 2019.
Bydd yn tynnu sylw at yr argyfwng tanwydd a chostau byw cynyddol fel tystiolaeth nad oes gan Boris Johnson y gallu sydd ei angen ar gyfer rôl y Prif Weinidog, gan ddweud bod y Llywodraeth “ar goll”.
Fe wnaeth Syr Keir gymryd yr awenau oddi wrth Jeremy Corbyn wedi i’r blaid ddioddef ei chanlyniad gwaethaf ers etholiad 1935.
Bydd Syr Keir yn dweud: “Yn rhy aml yn hanes y blaid hon mae ein breuddwyd o gymdeithas dda yn gwneud i bobol gredu na fyddwn yn cynnal economi gref.
“Ond dydych chi ddim yn cael un heb y llall.
“Ac o dan fy arweinyddiaeth rydym wedi ymrwymo i’r ddau.
“Gallaf addo i chi y bydd Llafur, o dan fy arweinyddiaeth, yn ôl mewn busnes.”
Dywedodd ffynhonnell y bydd yr araith yn “amlwg yn wahanol i’r hyn rydych chi wedi’i glywed gan Lafur yn y blynyddoedd diwethaf”, gan ychwanegu: “Bydd yn arwydd clir na fydd Llafur byth eto’n mynd i etholiad gyda maniffesto nad yw’n gynllun difrifol i lywodraethu.”
“Y sglein yn dod oddi ar Boris Johnson”
Mae’r araith, y dechreuodd Syr Keir ei hysgrifennu yn ystod gwyliau yn Dorset dros yr haf, yn tynnu ar ei brofiad o siarad â phleidleiswyr sydd wedi troi eu cefnau ar Lafur.
Mae’r blaid yn credu bod pleidleiswyr mewn seddi Wal Goch, roddodd eu pleidlais i Boris Johnson yn 2019, bellach yn pryderu am ei allu fel Prif Weinidog.
“Rydym yn gwybod bod y sglein yn dod oddi ar Boris Johnson, rydym yn gwybod ein bod mewn sefyllfa lle mae cwestiynau difrifol ynghylch cymhwysedd y Llywodraeth, ei gallu i gyflawni,” meddai llefarydd ar ran y blaid Lafur.
Mae’r wlad yn wynebu materion mawr, gan gynnwys “sut rydym yn gwneud ein bywoliaeth mewn byd cystadleuol”, dyfodol yr Undeb a’r berthynas ag Ewrop.
Bydd gwraig Syr Keir, Victoria, yn Brighton i wylio’r araith, a dywedodd y byddai’n nodi rhywfaint o’i gefndir a’i werthoedd personol.
Bydd yn defnyddio’r araith i addo y byddai triniaeth iechyd meddwl ar gael o fewn mis i bawb sydd ei hangen o dan lywodraeth Lafur.
A bydd yn addo “y cynllun gwella ysgolion mwyaf uchelgeisiol erioed” os bydd Llafur yn dod i rym, ac yn recriwtio miloedd o athrawon.
Dadlau mewnol
Bydd y prif anerchiad yn cau cynhadledd sydd wedi gweld ymddiswyddiad Andy McDonald o gabinet yr wrthblaid a dadlau gydag undebau ac adain chwith y blaid dros newidiadau mewnol i reolau.
Ond mae cynghreiriaid Syr Keir yn credu bod angen dadlau gydag adain Corbynite y blaid nawr, er mwyn paratoi’r blaid ar gyfer etholiad cyffredinol os bydd Boris Johnson yn penderfynu cynnal etholiad cyn 2024.
Gwersi o Gymru i Keir Starmer?