Mae cerflun i anrhydeddu Betty Campbell, prifathrawes ddu gyntaf Cymru ac ymgyrchydd hanes pobol ddu, wedi cael ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, 29 Medi).

Mae’r cerflun pedwar metr o uchder wedi ei leoli yn y Sgwâr Canolog.

Roedd y dadorchuddio wedi ei drefnu’n wreiddiol ar gyfer y llynedd, ond cafodd ei ohirio sawl gwaith oherwydd y pandemig.

Mae’r cerflun yn ganlyniad i bleidlais gyhoeddus yn 2019 i ddewis pa fenyw ddylai gael cerflun yn y brifddinas.

Cafodd y cerflun ei gomisiynu yn dilyn ymgyrch gan y grŵp Merched Mawreddog Cymru (Monumental Welsh Women).

Betty Campbell

Ganed Betty Campbell yn 1934 yn ardal dociau Caerdydd, neu Tiger Bay, i dad o Jamaica a mam o Gymru.

Bu’n gweithio fel athrawes mewn ardaloedd aml-hil a difreintiedig yn y ddinas, yn gyntaf yn Llanrhymni ac yna yn ei hysgol gynradd leol, Mount Stuart, lle daeth yn bennaeth yn yr 1970au.

Yn ystod ei hamser yn Ysgol Mount Stuart  a thrwy gydol ei hoes, bu’n hyrwyddo treftadaeth amlddiwylliannol ei chenedl, ac yn rhoi diwylliant pobol groenddu ar y cwricwlwm yn ei hysgol.

“Roedd popeth rownd y ffaith fod y plant yma gystal ag unrhyw blentyn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a gallen nhw wneud yn dda dim ond iddyn nhw weithio’n galed,” meddai Yvonne Scott, fu’n gweithio yn yr ysgol gyda Betty Campbell am 15 mlynedd, wrth y BBC.

“Doeddech chi byth yn gwybod yn iawn beth oedd yn mynd i ddigwydd nesaf neu pwy oedd yn mynd i droi lan yn yr ysgol,” meddai.

“Roeddech chi’n mynd mewn a phopeth wedi sortio mas gyda chi, a bydde hi’n dweud yn sydyn ‘O mae Neil Kinnock ’ma heddiw’, neu ‘allwch chi fynd ar y bws rownd y Bae, mae Harry Secombe yn dod, so ni’n mynd i fod fel y backdrop.

“Gaethon ni’r Tywysog Charles i’r ysgol, daeth Y Frenhines… doeddech chi byth yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd!”

Roedd Betty Campbell hefyd yn gynghorydd sir ar gyfer ward Butetown Caerdydd ac roedd yn aelod o’r pwyllgor paratoi ar gyfer agor y Cynulliad Cenedlaethol yn 1998.

Roedd hi ar y bwrdd cysylltiadau hiliol rhwng 1972 a 1976, yn aelod o Gyngor Darlledu Cymru rhwng 1980 a 1984, yn aelod o bwyllgor cynghori ar hil y Swyddfa Gartref ac yn gwasanaethu mewn llawer o rolau addysgol.

Bu farw Betty Campbell yn 2017 yn 82 oed.

“Cynrychiolaeth”

Yn ystod y digwyddiad i ddadorchuddio’r cerflun, fe wnaeth Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac Olivette Otele, Athro mewn Hanes Caethwasiaeth ym Mhrifysgol Bryste adrodd areithiau.

Cafodd cerdd, When I Speak Of Bravery, ei hadrodd gan fardd preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Taylor Edmunds, hefyd, a chafodd negeseuon eu darlledu dros fideo gan Michael Sheen, Tywysog Charles, a’r canwr a’r cyfansoddwr Labi Siffre.

Dywedodd wyres Betty Campbell wrth wasanaeth newyddion PA: “Mae cynrychiolaeth wir yn bwysig.

“Y lluniau rydyn ni’n eu gweld fel menywod ifanc, fel pobol o liw, fel dinasyddion Cymreig, maen nhw’n dylanwadu ar ein meddyliau ac ar ein ffordd o feddwl.

“Un o’r pethau gwych am gael y cerflun yma o nain a phopeth mae’n ei gynrychioli yng nghanol Caerdydd yw ei fod yn dangos bod pethau’n newid.

“Mae’n rhoi caniatâd i’r genhedlaeth ifanc gredu yn eich hunain hefyd, a gwybod bod yna bobol allan yna sy’n credu ynddoch chi.

“Does dim rhaid i chi fodloni ar y ffiniau mae pobol yn eu gosod i chi.”

Dywedodd ei mam, Elaine Clarke, wrth PA: “Dw i’n teimlo’n emosiynol iawn, ond yn falch iawn mai fy mam fydd y cerflun cyntaf o ddynes yng Nghymru.

“Pe tai fy mam, bendith arni, yma byddai hi wrth ei bodd. Mae’n gerflun anarferol, ac roedd fy mam yn fenyw anarferol iawn felly dw i’n meddwl ei fod yn gweddu’n dda bod cerflun fel hyn wedi’i greu gan Eve.”

“Ysbrydoli”

Dywedodd Helen Molyneux, sylfaenydd Merched Mawreddog Cymru, ei bod hi’n gobeithio y bydd y cerflun yn “ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod Cymraeg”.

“Roedd effaith Betty yn ystod ei oes yn anhygoel, ond, fel gyda chymaint o fenywod eraill drwy hanes, yn debygol o gael ei hanghofio gan genedlaethau’r dyfodol oni bai bod rhywbeth yn cael ei wneud i ddod â hi at sylw pobol,” meddai Helen Molyneux wrth y BBC.

“Bydd y cerflun gan Eve Shepherd yn sicr yn gwneud hynny. Mae’n ddarn gwirioneddol eiconig, hyfryd a fydd yn denu sylw’r byd i Gaerdydd.”

Nod Merched Mawreddog Cymru yw codi pum cerflun o bum menyw Gymraeg mewn pum mlynedd, ac maen nhw’n anelu at godi cerfluniau o Cranogwen, Elizabeth Andrews, Elaine Morgan ac Arglwyddes Rhondda.