Mae cwmni ffasiwn Next wedi rhybuddio y bydd costau’n cynyddu a’u bod yn wynebu prinder staff yn y cyfnod hyd at y Nadolig.

Daw’r rhybudd wrth i’r cwmni gyhoeddi elw cyn treth o £346.7m am y chwe mis hyd at 31 Gorffennaf, gostyngiad o 16.5% ers y llynedd ond cynnydd o 5.9% o’i gymharu â 2019. Roedd  gwerthiant 20% yn uwch o’i gymharu â 2019 yn ystod deufis ola’r chwe mis cyntaf.

Mae’r grŵp yn rhagweld y bydd elw cyn treth yn cyrraedd £800m am y flwyddyn hyd at fis Ionawr, cynnydd o 6.9% o’i gymharu â 2019.

“Argyfwng sgiliau”

Ond mae Next wedi dweud bod problemau gyda’r gadwyn gyflenwi wedi golygu cynnydd mewn prisiau o tua 2% yn yr hanner cyntaf ac yn rhybuddio y gall hyn barhau tan y flwyddyn nesaf, gyda disgwyl i brisiau gynyddu tua 2.5% yn hanner cyntaf 2022.

Ychwanegodd y cwmni eu bod dan bwysau mewn rhai rhannau o’r busnes oherwydd prinder staff, yn enwedig yn eu warysau a allai effeithio eu gwasanaeth dosbarthu yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.

Mae’r prif weithredwr yr Arglwydd Simon Wolfson, a oedd yn gefnogwr Brexit brwd, wedi galw ar y Llywodraeth i weithredu er mwyn osgoi “argyfwng sgiliau” fel sydd wedi bod gyda gyrwyr loriau.

“Rydyn ni’n rhagweld ein bod yn debygol o weld effaith ar ein gwasanaethau yn y cyfnod hyd at y Nadolig os nad oes rhywfaint o lacio ar y rheolau mewnfudo,” meddai.