Mae achos dedfrydu llofrudd Sarah Everard wedi clywed ei bod wedi cael ei “chipio, treisio, a’i thagu” cyn i’w chorff gael ei losgi.

Roedd Wayne Couzens, 48, yn gweithio gyda’r Heddlu Metropolitaidd pan wnaeth e gipio Sarah Everard wrth iddi gerdded adre yn ardal Clapham yn ne Llundain ar 3 Mawrth eleni.

Fe wnaeth y llofrudd, a oedd newydd orffen shifft 12 awr y bore hwnnw, dreisio a thagu Sarah Everard, 33.

Wythnos ar ôl iddi ddiflannu, cafodd ei chorff ei ddarganfod mewn ffos mewn coedwig yn Ashford, Caint, ychydig fetrau oddi wrth dir oedd yn berchen i Wayne Couzens.

“Mae darn o dir y diffynnydd yn agos iawn, ac yn yr un coedwig, lle wnaeth e losgi corff Sarah Everard ar ôl ei llofruddio,” meddai’r erlynydd, Tom Little.

“Yna fe wnaeth e symud ei chorff mewn bagiau gwyrdd, a oedd wedi’u prynu’n arbennig ar gyfer y dasg honno, i bwll dyfnach yn y coed ond roedd y pwll ond tua 130 medr oddi wrth ei ddarn o dir,” meddai.

Fe wnaeth Wayne Couzens gael gwared ar bopeth oddi ar ei ffôn funudau cyn iddo gael ei arestio yn ei gartref yn Deal, Caint ar 9 Mawrth.

Arweiniodd y llofruddiaeth at brotestiadau ac ymgyrchu yn erbyn cyfraddau trais yn erbyn menywod.

Y gwrandawiad

Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Wayne Couzens bledio’n euog i lofruddio, herwgipio a threisio Sarah Everard dros alwad fideo o’r carchar.

Heddiw (29 Medi), daeth wyneb yn wyneb â theulu Sarah Everard pan gafodd ei hebrwng i’r Old Bailey ar gyfer dechrau’r broses o’i ddedfrydu.

Wrth ddechrau gyda’r ffeithiau ynghylch yr achos, dywedodd Tom Little mai diflaniad Sarah Everard oedd un o’r ymchwiliadau mwyaf cyhoeddus ynghylch person ar goll y mae’r wlad erioed wedi’i weld.

Ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod, cafodd y digwyddiad ei grynhoi gyda’r hashtag “she was just walking home”.

Ond doedd hynny ddim yn disgrifio’n llwyr yr hyn ddigwyddodd iddi, clywodd y llys.

“Er ei bod hi’n amhosib crynhoi’r hyn wnaeth y diffynydd i Sarah Everard mewn pum gair, os byddai’n rhaid gwneud hynny byddai’n fwy addas dweud twyll, cipio, treisio, tagu a thân,” meddai Tom Little.

Cafodd Sarah Everard ei disgrifio gan ei chyn-gariad fel person “hynod ddeallus, gyda synnwyr cyffredin,” ac nad oedd yn berson “hawdd i’w thwyllo”.

Dywedodd na allai ei dychmygu’n mynd mewn i gar gyda rhywun doedd hi ddim yn ei adnabod “oni bai bod hynny drwy rym neu dwyll”.

Dywedodd Tom Little bod Wayne Couzens wedi bod yn gweithio fel swyddog gorfodi rheolau Covid ddiwedd Ionawr eleni, felly byddai’n gwybod sut iaith i ddefnyddio gyda phobol a allai fod wedi torri’r rheolau.

Yn ôl adroddiadau, roedd Wayne Couzens yn gwisgo ei wregys heddlu gyda gefynnau llaw, pan gafodd Sarah Everard ei chipio.

Fe wnaeth e gipio Sarah Everard mewn “arestiad ffug”, drwy ei “rhoi mewn gefynnau llaw a dangos ei gerdyn gwarant”, meddai Tom Little.

Mae’n rhaid ei fod wedi cymryd ei ffôn symudol a thynnu’r sim allan, a thrio ei ddinistrio, meddai’r erlynydd.

“Codi nifer o gwestiynau”

Cyn y gwrandawiad i’w ddedfrydu, fe wnaeth Scotland Yard ryddhau datganiad yn dweud: “Rydyn ni wedi’n ffieiddio gan droseddau’r dyn hwn sy’n bradychu popeth rydyn ni’n eu cynrychioli.

“Mae ein meddyliau gyda theulu Sarah a’i ffrindiau niferus. Dydi hi ddim yn bosib i ni ddychmygu’r hyn maen nhw’n mynd drwyddo.

“Rydyn ni’n cydnabod bod ei weithredoedd yn codi nifer o gwestiynau ond ni fyddwn ni’n gwneud sylwadau pellach nes y bydd y gwrandawiad ar ben.”

Bydd y Barnwr Fulford yn ystyried a fydd e’n dedfrydu Wayne Couzens i garchar am oes cyn cyhoeddi’i benderfyniad fory (30 Medi).