Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fod yn gyfrifol am y prinder gyrwyr loriai HGV.

Wrth ymateb i gwestiwn gan Laura Anne Jones, AoS Ceidwadol am yr argyfwng fe ddywedodd Mark Drakeford: “Wrth gwrs ein bod ni’n brin o yrrwr loriau oherwydd fe wnaeth eich Llywodraeth chi gymryd ni allan o’r Undeb Ewropeaidd.”

Mae’r diffyg gyrwyr ar gyfer cerbydau nwyddau trwm wedi arwain at brinder bwyd mewn archfarchnadoedd, a bwytai, ac at bympiau tanwydd yn cael eu gwagio mewn gorsafoedd petrol.

“Maen nhw wedi gwneud ymdrech chwerthinllyd i ddatrys problem a grëwyd ganddyn nhw eu hunain.”

Yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog fe ddywedodd mai Brexit oedd yn gyfrifol dros y sefyllfa sydd ohoni.

‘Anwybodaeth’

“Pan oeddem ni yn rhan o farchnad sengl ac undeb tollau roedd hawl gan bobl i symud yn rhydd fel y mynnent ar draws rhannau o Ewrop a gwneud swyddi yn y rhannau yma o’r wlad, ond dydy’r bobl yna ddim ar gael i ni bellach.

“Mae’n syndod y bydd gan bobl yr hawl i godi pac a dychwelyd i weithio yn y wlad hon am fater o wythnosau dim ond i Lywodraeth y Deyrnas Unedig droi rownd a dweud y byddan nhw’n cael gwared arnyn nhw unwaith yn rhagor noswyl Nadolig pan fydd ddim eu hangen nhw bellach.

“Mae’r anwybodaeth yn syfrdanol, ond dydy hyn ddim yn mynd i weithio.”

Gall hyd at 10,500 o yrwyr lorïau a gweithwyr dofednod dderbyn fisas dros dro yn y DU wrth i’r Llywodraeth geisio lleddfu’r problemau yn y cyfnod hyd at y Nadolig.

Cadarnhaodd y Llywodraeth y bydd 5,000 o yrwyr tanceri tanwydd a lorïau bwyd yn gymwys i weithio yn y DU am dri mis, tan Noswyl Nadolig. Mae 150 o filwyr hefyd yn cael hyfforddiant i yrru tanceri tanwydd.

“Sefydlogi”

Mae’r diwydiant tanwydd wedi dweud bod y sefyllfa mewn gorsafoedd petrol “wedi dechrau gwella”, ac maen nhw’n hyderus y bydd yn “sefydlogi ymhellach yn y dyddiau nesaf”.

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau gan Adran Strategaeth Ddiwydiannol, Busnes ac Ynni’r Deyrnas Unedig, dyweda grŵp o gwmnïau a chyrff masnachu: “Tra bod yna ddigon o danwydd wedi bod yn ein purfeydd ac ein terfynellfeydd, rydyn ni nawr yn gweld arwyddion bod y sefyllfa wrth y pympiau wedi dechrau gwella.

“Heddiw fe wnaethom ni gyfarfod â’r Ysgrifennydd Busnes ac rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gyda’r Llywodraeth er mwyn danfon tanwydd i orsafoedd yn gyson.

“Rydyn ni’n parhau’n hyderus y bydd y sefyllfa’n sefydlogi mwy yn y dyddiau nesaf ac yn annog pawb i lenwi’u ceir fel y bydden nhw’n gwneud fel arfer er mwyn helpu gorsafoedd petrol i ddychwelyd at normalrwydd.”

Fe wnaeth y Gymdeithas Manwerthwyr Petrol, sy’n cynrychioli dau draean o orsafoedd petrol y Deyrnas Unedig, ddweud bod yr argyfwng yn “lliniaru” hefyd.

“Mae yna arwyddion addawol bod yr argyfwng wrth y pympiau’n lliniaru, gyda gorsafoedd petrol yn dweud eu bod nhw’n derbyn cyflenwadau pellach o danwydd.

“Dim ond 27% o aelodau’r Gymdeithas Manwerthu Petrol sydd wedi adrodd iddyn nhw redeg allan o danwydd heddiw, a gydag ailstocio rheolaidd yn digwydd, rydyn ni’n disgwyl gweld y lliniaru’n parhau dros y 24 awr nesaf.”

Darllen rhagor

150 o filwyr yn dechrau hyfforddi i yrru tanceri tanwydd

Boris Johnson yn paratoi i ddelio gyda phroblemau posib “hyd at y Nadolig a thu hwnt”

Garej betrol wedi bod yn ceisio helpu cwsmeriaid rheolaidd i gael blaenoriaeth wrth lenwi’u ceir

Cadi Dafydd

“Rydyn ni’n gorfod ailagor lot ar ôl cau gan fod pobol yn mynd yn flin efo ni”

“Mae pobol wedi prynu a phrynu, a hynny sydd wedi creu’r broblem”

Gwern ab Arwel

Roedd rhai garejys wedi rhedeg allan o danwydd dros y penwythnos ar ôl i bobol ddechrau prynu mewn panig

Rhoi fisas dros dro i 5,000 o yrwyr lorïau am “wneud fawr ddim gwahaniaeth”

Gwern ab Arwel

“Hyd yn oed os fydd pentwr yn dod draw dros y tri mis nesaf, rydyn ni’n mynd i gael cyfnod eithaf hwylus ond peth nesaf fyddwn ni’n ôl yn sgwâr un”