Mae diplomydd o Gymru wedi dweud sut y gwnaeth ddal babi bychan yn ei freichiau wrth helpu mam a’i phlant i ddianc o Affganistan wedi i’w gŵr gael ei ladd gan y Taliban.

Roedd Rhys Annett, 29, sy’n dod o Aberhonddu ym Mhowys, yn rhan o Dîm Adleoli brys y Deyrnas Unedig a oedd wedi hedfan i Kabul er mwyn helpu dros 15,000 o ddinasyddion y Deyrnas Unedig ac Affganiaid i ddianc o’r wlad.

Fe wnaeth Rhys Annett, sy’n gweithio i Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu’r Deyrnas Unedig, ddisgrifio wythnos “drallodus” yn helpu yn Kabul pan fu bron iddo gael ei ladd mewn ffrwydrad a laddodd 170 o bobol.

“Roedd e’n brofiad trallodus achos roeddech chi’n delio gyda theuluoedd yn y sefyllfa fwyaf anobeithiol wyneb yn wyneb,” meddai.

“Mae’n debyg mai’r atgof mwyaf byw sydd gen i yw gweld dynes gydag efeilliaid, a oedd yn fabis, tua saith neu wyth mis oed. Roedd eu tad wedi cael ei ladd gan y Taliban.

“Doedd hi methu cario’r efeilliaid ei hun felly roedd hi’n pasio un ohonyn nhw ymlaen ar hyd ciw hir iawn nes y gwnaeth gyrraedd ata’i yn y pendraw. Fe wnes i ddal y babi tra’r oeddwn i’n trio prosesu ei chais i adael.”

“Iasol”

Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig helpu 15,000 o bobol i adael Affganistan, gan gynnwys tua 2,200 o blant, rhwng 14 Awst nes i awyren olaf byddin Prydain adael ar 28 Awst.

“Roedden ni’n gweithio 16 neu 17 awr y diwrnod. Dydych chi ddim yn cysgu lot, achos rydych chi’n dal i fynd oherwydd yr adrenalin,” meddai Rhys Annett.

“Dw i wedi gweithio mewn ambell argyfwng o’r blaen, ond hwn oedd y peth anoddaf dw i erioed wedi’i wneud mae’n debyg – ond yr un mwyaf gwerthfawr hefyd.

“Byddwn i’n dweud bod mwy na hanner y teuluoedd welais i, bod o leiaf un aelod o’r teulu wedi cael eu lladd, gan y Taliban neu gan drais arall, mae’n debyg.

“Yr adegau mwyaf emosiynol oedd pan fyddech chi’n helpu merched ifanc i adael oherwydd byddai eu bywydau yn Affganistan, pe baen nhw wedi gorfod aros, wedi bod yn anodd ofnadwy.”

Roedd Rhys Annett a’i gydweithwyr yn arfer gweithio yng Ngwesty’r Baron lle bu ffrwydrad ar 26 Awst, ond roedden nhw newydd gael eu symud ddwy awr ynghynt.

“Gaethon ni ein symud i leoliad newydd oherwydd fe wnaethon ni dderbyn gwybodaeth am y bygythiad cynyddol y byddai bom ac ychydig o oriau wedyn fe ffrwydrodd bom enfawr,” meddai.

“Roedd y bom ar y llwybr y gwnaethon ni ei chymryd allan [o Westy’r Baron] felly roedd yn eithaf iasol.”

Fe wnaeth Isis-K, un o is-grwpiau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydrad.