Mae miloedd o weithwyr gofal iechyd wedi dweud nad yw codiad cyflog Llywodraeth Cymru i’r staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn mynd ddigon pell.
Fel rhan o yngynghoriad ar gyfer aelodau undeb UNSAIN Cymru, fe wnaeth 87% wrthwynebu’r codiad cyflog o 3% sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r gweithwyr hynny yn cynnwys miloedd o nyrsys, cynorthwyyr gofal iechyd, gweithwyr ambiwlansys, porthorion mewn ysbytai, glanhawyr, cogyddion a staff gweinyddol.
Pan ofynodd UNSAIN am farn eu haelodau ynghylch y cynnig, dim on 12.6% ddywedodd ei fod yn dderbyniol.
Mae pwyllgor iechyd UNSAIN Cymru wedi pleidleisio er mwyn cefnogi trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru er mwyn trïo dod i gytundeb er mwyn cynyddu’r codiad cyflog.
Mae’r undeb wedi galw am roi codiad cyflog o £2,000, o leiaf, i bob gweithiwr iechyd.
Os na fydd y trafodaethau brys hyn yn arwain at gynnydd yn y codiad cyflog, mae’r pwyllgor wedi cytuno y bydden nhw’n argymell cynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol.
“Haeddu gwell”
“Ar ôl deunaw mis anoddaf eu bywydau, mae staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn haeddu gwell na Llywodraeth Cymru yn darparu codiad cyflog sydd dan chwyddiant,” meddai Paul Summers, cadeirydd UNSAIN ar gyfer undebau iechyd Cymru.
“Bydd UNSAIN yn cyfarfod gyda’r gweinidog iechyd er mwyn ceisio gwella’r 3% presennol.
“Gall gweithwyr gofal iechyd fod yn sicr y bydd UNSAIN yn parhau i gwffio am y fargen orau bosib, sy’n gwobrwyo eu gwaith caled.”