Ni fydd Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yn cael ei chynnal yn Aberystwyth fis Hydref.

Yn dilyn ystyried argymhelliad gan Bwyllgor Llywio Plaid Cymru, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol neithiwr y dylid gohirio’r gynhadledd.

Mewn llythyr at aelodau’r blaid, mae’r cadeirydd, Alun Ffred Jones, yn nodi bod achosion Covid yn parhau i fod yn uchel, a bod Plaid Cymru am roi diogelwch eu haelodau, rhanddeiliaid a chymunedau yn gyntaf.

Roedd disgwyl i’r gynhadledd gael ei chynnal ar 15 ac 16 Hydref yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, a bydd Plaid Cymru’n trafod opsiynau ar gyfer cynnal Cynhadledd Flynyddol rithwir yn y dyfodol agos.

“Diogelwch yn gyntaf”

“Cyfarfu Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru neithiwr i drafod argymhelliad gan Bwyllgor Llywio’r Blaid y dylid gohirio Cynhadledd Flynyddol 2021,” meddai Alun Ffred Jones yn ei lythyr.

“Yn dilyn ystyriaeth ofalus, cytunodd y Pwyllgor Gwaith â’r argymhelliad ac yn anffodus ni fydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal fel y cynlluniwyd yn Aberystwyth ar Hydref 15-16eg.

“Gwn y byddwch yn rhannu ein siom na fyddwn yn cyfarfod wyneb i wyneb i drafod syniadau ac adeiladu tuag at yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.

“Mae Plaid Cymru bob amser yn rhoi diogelwch ein haelodau, rhanddeiliaid a’n cymunedau yn gyntaf.

“Mae nifer yr achosion Covid yn parhau i fod yn uchel a’r amcangyfrif diweddaraf yw y bydd pwysau ar ein hysbytai ar ei uchaf tua dyddiad y Gynhadledd. Mae’n hanfodol ein bod ni’n chwarae ein rhan i gadw pawb yn ddiogel.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn dod at ein gilydd cyn gynted â phosibl. Bydd y Blaid yn trafod opsiynau ar gyfer cynnal Cynhadledd Flynyddol rithwir yn y dyfodol agos a fydd yn caniatáu inni ymdrin â’r materion pwysig o ffurfio polisi ac ethol cynrychiolwyr i’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.”