Yn ei araith i gynhadledd y Blaid Lafur heddiw (29 Medi), ymosododd Keir Starmer ar y Prif Weinidog Boris Johnson gan ei alw yn “chwaraewr triciau” (“trickster“) heb unrhyw gynllun ar gyfer rhedeg y wlad.
Roedd hefyd yn mynnu y gallai Llafur ennill yr etholiad nesaf.
Yn ei araith gyntaf yn y gynhadledd fel arweinydd Llafur, dywedodd Keir Starmer ei fod “o ddifrif” ynglŷn â threchu’r Ceidwadwyr gan eu cyhuddo o beidio gallu sicrhau cyflenwad petrol a bwyd i’r wlad.
Ond cafodd ei heclo gan ymgyrchwyr, yn honedig am wrthod cefnogi isafswm cyflog o £15 yr awr.
Mewn araith bersonol iawn, disgrifiodd yr arweinydd Llafur “deulu a gwaith” fel “dwy graig fy mywyd – y ddwy ffynhonnell yr wyf yn credu sy’n dda ac yn iawn”, gan dynnu sylw at ei gefndir fel mab gwneuthurwr offer a nyrs a oedd angen gofal hirdymor yn ddiweddarach.
Cymharodd ei orffennol fel pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron gyda chefndir y Prif Weinidog fel colofnydd papur newydd.
“Twyllwr”
“Mae’n hawdd cysuro’ch hun bod eich gwrthwynebwyr yn bobol ddrwg,” meddai.
“Ond dwi ddim yn meddwl bod Boris Johnson yn ddyn drwg. Rwy’n credu ei fod yn ddyn dibwys.
“Rwy’n credu ei fod yn ddiddanwr sydd â dim byd ar ôl i’w ddangos.
“Dwi’n meddwl ei fod o’n chwaraewr triciau sydd wedi perfformio ei dric.
“Does dim cynllun.”
Honnodd fod Prydain wedi cael ei gadael yn “ynysig ac amherthnasol” ar lwyfan y byd o dan arweiniad Boris Johnson.
Etholiad 2019 yn “dal i frifo”
Ond fe wnaeth hefyd gydnabod methiant Llafur i drechu’r Torïaid o dan Jeremy Corbyn – ond gan ganmol ymgyrchwyr y blaid.
“Gallaf weld y ffyrdd y gallwn ailstrwythuro’r genedl hon a dyna gawn ni ei wneud pan fyddwn yn ennill,” meddai.
“Ac eto, mewn ffordd, po fwyaf yr ydym yn amlygu annigonolrwydd y Llywodraeth hon, po fwyaf y mae’n pwyso’r cwestiwn yn ôl arnom.
“Os ydyn nhw mor ddrwg, beth mae’n ei ddweud amdanom ni? Oherwydd wedi’r cyfan yn 2019 fe gollon ni iddyn nhw, ac fe gollon ni’n wael. Gwn fod hynny’n brifo pob un ohonoch.
“Felly, gadewch i ni fynd yn gwbl ddifrifol am hyn – gallwn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
“Ni all y Llywodraeth hon gadw’r tanwydd yn llifo, ni all gadw’r silffoedd wedi’u stocio, ac rydych wedi gweld beth mae Boris Johnson yn ei wneud pan fydd eisiau mwy o arian – mae’n mynd yn syth am waledi pobol sy’n gweithio.
“Llafur yw’r blaid sydd ar ochr pobl sy’n gweithio.”
Rheolau “ddim yn berthnasol” i Boris Johnson
Wrth nodi’r gwrthgyferbyniad rhyngddo ef a’r Prif Weinidog, dywedodd Keir Starmer: “Yr un peth am Boris Johnson sy’n tramgwyddo popeth rwy’n sefyll drosto yw ei dybiaeth nad yw’r rheolau’n berthnasol iddo ef.”
Cyfeiriodd at weithredoedd cyn-gymhorthydd Rhif 10, Dominic Cummings, ac yna’r cyn ysgrifennydd iechyd, Matt Hancock, yn ystod y cyfnod clo.
“Rhaid i wleidyddiaeth fod yn lân; rhaid cosbi camweddau.
“Mae adegau yn y Senedd hon pan fyddaf yn teimlo fel pe bai gennyf fy hen swydd yn ôl [fel pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron].
“Ar ran y cyhoedd sy’n poeni am lanhau gwleidyddiaeth, rwyf wedi rhoi’r Llywodraeth hon ar rybudd.”
Tynnodd Starmer hefyd ar ei broffesiwn blaenorol i ddweud mai Llafur yw’r blaid cyfraith a threfn, gan addo mynd ati’n gyflym i gael achosion o dreisio ac ymosodiadau rhywiol a dedfrydau llymach i dreiswyr a chamdrinwyr domestig.
“Mae hyn yn rhan o bwy ydyn ni oherwydd bod hyn yn rhan o bwy ydw i,” meddai.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur bod pandemig y coronafeirws yn amlygu “methiant y Llywodraeth ar iechyd dros 11 mlynedd”, gyda’r marwolaethau “yn waeth nag oedd angen iddynt fod”.
“Mae ’na graciau yn y gymdeithas Brydeinig ac mae Covid wedi eu hamlygu,” meddai.
Ymbellhau oddi wrth Jeremy Corbyn
Wrth geisio ymbellhau oddi wrth gyfnod Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid, dywedodd Mr Starmer “na fyddwn byth o dan fy arweinyddiaeth i yn mynd i etholiad gyda maniffesto nad yw’n gynllun difrifol i lywodraethu”
Aeth ymlaen i ganmol record y blynyddoedd Llafur Newydd gan dynnu sylw at welliannau mewn gofal iechyd a lleihau tlodi.
“Rydych chi eisiau lefelu i fyny? Dyna ydi lefelu i fyny,” meddai.
Cyhuddodd y Prif Weinidog o fabwysiadu dull “caletach” o ymdrin â dyfodol y Deyrnas Unedig sy’n ei “roi mewn perygl”.
“Mae’r Alban yn y sefyllfa anffodus o gael dwy lywodraeth wael – y Torïaid yn San Steffan a’r SNP yn Holyrood.”
Bydd y cyn-brif weinidog, Gordon Brown, yn arwain comisiwn Llafur ar ddyfodol yr undeb, meddai Starmer, gan ychwanegu: “Rydym yn fwy fel Prydain nag y byddem ar wahân.”
Ar ddiwedd yr araith – a barodd bron i 90 munud ac a redodd i fwy na 7,000 o eiriau – ymunodd ei wraig Victoria ag ef a chafodd ei gymeradwyo wrth iddo ysgwyd dwylo gydag ymgyrchwyr cyn gadael neuadd y gynhadledd.