Mae chwech o’r deg awdurdod lleol â’r cyfraddau Covid-19 uchaf yn y Deyrnas Unedig yng Nghymru.
Yn ôl yr ystadegau ar gyfer y saith niwrnod hyd at 25 Medi, Castell-nedd Port Talbot oedd â’r gyfradd uchaf-ond-un yn y Deyrnas Unedig (921.8 achos i bob 100,000 person).
Mae hynny’n gynnydd o’r gyfradd o 870.6 i bob 100,000 person ar gyfer yr wythnos yn gorffen ar 18 Medi.
Rhondda Cynon Taf sydd â’r drydedd gyfradd uchaf, i fyny o 735.1 i 869.1, gyda 2,102 o achosion newydd.
Caerffili, Merthyr Tudful, Abertawe a Blaenau Gwent yw’r awdurdodau Cymreig eraill yn y deg uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Wrecsam, Sir Fynwy a Phowys oedd y tri awdurdod lleol â’r cyfraddau isaf yng Nghymru yn y saith niwrnod hyd at 25 Medi.
Rhestr lawn
Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 29 Medi ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.
Dyma’r rhestr yn llawn.
Mae’n darllen, o’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cenedl neu ranbarth awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith niwrnod hyd at 25 Medi; nifer (mewn cromfachau) yr achosion newydd a gofnodwyd yn y saith niwrnod hyd at 25 Medi; cyfradd yr achosion newydd yn y saith niwrnod hyd at Fedi 18; nifer (mewn cromfachau) yr achosion newydd a gofnodwyd yn y saith niwrnod hyd at Fedi 18.
Castell-nedd Port Talbot, Cymru, 921.8, (1331), 870.6, (1257)
Rhondda Cynon Taf, Wales, 869.1, (2102), 735.1, (1778)
Caerffili, Cymru, 839.2, (1525), 718.6, (1306)
Merthyr Tudful, Cymru, 797.7, (482), 807.6, (488)
Abertawe, Cymru, 781.5, (1927), 712.2, (1756)
Blaenau Gwent, Wales, 731.2, (512), 639.8, (448)
Bro Morgannwg, Cymru, 730.3, (988), 632.0, (855)
Casnewydd, Cymru, 671.2, (1050), 507.5, (794)
Torfaen, Cymru, 661.2, (627), 510.4, (484)
Sir Gaerfyrddin, Cymru, 611.9, (1163), 595.0, (1131)
Sir Ddinbych, Cymru, 609.3, (589), 528.6, (511)
Conwy, Wales, 582.1, (688), 612.6, (724)
Caerdydd, Cymru, 571.8, (2111), 433.4, (1600)
Gwynedd, Cymru, 565.6, (708), 497.7, (623)
Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, 549.0, (810), 457.5, (675)
Sir y Fflint, Cymru, 529.8, (831), 544.5, (854)
Ynys Môn, Cymru, 502.6, (354), 403.2, (284)
Sir Benfro, Cymru, 456.8, (579), 345.6, (438)
Ceredigion, Wales, 451.3, (329), 375.9, (274)
Powys, Cymru, 442.8, (589), 462.3, (615)
Sir Fynwy, Cymru, 425.6, (405), 265.9, (253)
Wrecsam, Cymru, 418.2, (569), 368.2, (501)